Rwy'n credu bod y Bil Asbestos yn gorfod dangos bod gwahaniaeth yn y gyfraith rhwng compensation a damages.

 

Fe  gyfieithes i ddrafft cynnar o'r Bil, a thrwy chwilio drwy ddeddfau blaenorol fe weles i eu bod nhw fel rheol yn defnyddio iawndal i gyfleu damages, a digolledu/digollediad am compensation.

 

Doedd yr 'uned adfer iawndal' yma ddim yn y drafft gyfieithes i, a dyw hi ddim yn y Bil drafft fel y mae e wedi'i gyhoeddi chwaith.

 

Ydy'r ffaith mai 'iawndal' sydd yma ac nid 'digolledu' yn dangos nad yw iaith bob dydd yn gorfod gwahaniaethu rhwng pethau yr un mor fanwl ag yw'r iaith anghyffredin sy'n cael ei defnyddio mewn meysydd arbenigol fel y gyfraith?

 

Ac 'adennill' yw 'recovery' yn y Bil - nid 'adfer' - dwi'n dyfalu bod bathwr y term 'uned adfer iawndal' heb gael cyfle i weld y Bil a sicrhau bod y term yn cyd-fynd â'r ymadroddion yn y Bil. Wn i ddim.

 

Cwmni DB Cyf.

Rhif y Cwmni: 04990174

Rhif TAW: 987 2849 49

Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
Sent: 22 Chwefror 2013 09:40
To: [log in to unmask]
Subject: compensation

 

Mae "compensation" yn gallu bod yn anodd.

Dw i ddim bob amser yn siwr pryd i ddefnyddio "iawndal" a "digolledu"

 

Rwy'n sylwi bod un o'r geirfaoedd a gyrhaeddodd ddoe - Geirfa'r Bil Adennill Costau Meddygol ar gyfer Clefydau Asbestos (Cymru) - yn rhoi 

a)  "compensation payment(s) - taliad(au) digolledu" a 

b)  "compensation recovery unit - uned adfer iawndal". 

 

A oes gwahaniaeth?

 

Diolch yn fawr iawn, David, am dynnu ein sylw at y Geirfaoedd hyn. Mi fyddant yn ddefnyddiol iawn, rwy'n siwr.

 

Siân