Print

Print


Diolch yn fawr am y wybodaeth, Dewi: llun eithriadol o ddiddorol!

 

Nid sôn am haearn yn cael ei rofio oeddwn i, ond rhofio'r glo neu'r golosg oedd yn bwydo'r ffwrnais. Mae'r llun cyntaf yn y ffeil .jpg yma yn dangos dyn yn rhofio rhywbeth beth bynnag!

 

David

Cwmni DB Cyf.

Rhif y Cwmni: 04990174

Rhif TAW: 987 2849 49

Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dewi Williams
Sent: 21 Chwefror 2013 12:54
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: ATB/RE: Ore Blast Pour Cast Iron

 

David, mae'r haearn yn hylif ar ôl i'r mwyn gael ei danio.  Mae rhywun yn "rhofio" pethau soled. Awgrymaf ei bod yn saffach cadw at  "Arllwys" (neu "Tywalltu", "Tollti")
 
Gweler y llun
 http://www.wrexham.gov.uk/welsh/heritage/bersham_ironworks_w/making_iron_cast.htm
 
Dewi
 

> Date: Thu, 21 Feb 2013 09:24:33 +0000
> From: [log in to unmask]
> Subject: Re: ATB: ATB/RE: Ore Blast Pour Cast Iron
> To: [log in to unmask]
>
> Cloddio
> Tanio
> Rhofio
> Bwrw
> Haearn
>
> sy gen i erbyn hyn - er mwyn defnyddio berfenwau sy'n cyd-fynd â'r lluniau ac sy'n rhan o broses creu haearn hefyd (am wn i).
>
> Fe allwn i roi 'colbio' yn lle 'bwrw' er mwyn cael yr un terfyniad bob tro, ond gan mai 'haearn bwrw' oedd 'cast iron' rwy'n credu bod rhaid cadw 'bwrw'.
>
> (Swn i wedi hoffi defnyddio mwyn-glawdd a haearn tawdd, ond dyw cynllun y gwaith celf ddim yn ddigon hyblyg y tro yma.
>
> Diolch bawb am yr help, ond mae gen i weddill y dydd o hyd os oes gan rywun ragor o syniadau....