Print

Print


Ydw, diolch, ond dwi ddim yn meddwl bod problem efo defnyddio 'cyfathrebu' bob tro mae o heb wrthrych a 'cyfleu' bob tro mae gwrthrych.
 
Dwi'n dod drosodd i Rufain fory os wyt ti yn y cyffiniau!
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">anna gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, February 20, 2013 12:42 PM
Subject: Re: cyfathrebu

Feddyliais i wedyn, os oes rhaid rhoi 'Cyfathrebu' yn bennawd, ei miglo hi allan o'r sefyllfa drwy ddeud "cyfathrebu a^ [pwy bynnag], h.y. cyfleu [beth bynnag ydi o]" y tro cynta, er mwyn cysylltu'r ddau air - y pennawd cyfathrebu a'r ferf cyfleu, wedyn o hynny ymlaen defnyddio cyfleu. Eglurhad bler braidd - ti'n gweld be sy gin i?

Anna

2013/2/20 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Diolch i bawb - does gen i ddim byd yn erbyn cyfleu, dim ond wedi meddwl efallai nad oedd yn union yr un ystyr iddo. Ond hwyrach mai wedi gorfeddwl am y peth oeddwn i ac y byddai cyfleu'n gwneud i'r dim.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>anna gruffydd
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>[log in to unmask]
Sent: Wednesday, February 20, 2013 11:43 AM
Subject: Re: cyfathrebu

Be sgin ti yn erbyn cyfleu?

Anna

2013/2/20 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Cyfarwyddiadau ar gyfer dysgu actorion sy gen i - dogfen reit faith efo llu o benawdau fel expression (mynegi) communication (cyfathrebu) ac ati.
 
Dyna pam dwi ddim isio dechrau dweud mynegi am communicate yng nghorff y ddogfen.
 
Ac mae traddodi yn nes at delivery a trosglwyddo yn transfer.
 
Falle mai glynu at gyfathrebu fydd orau.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>Ann Corkett
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>[log in to unmask]
Sent: Wednesday, February 20, 2013 11:18 AM
Subject: Re: cyfathrebu

 

 

Ydy, mae’n swnion chwithig.  Beth sy’n bod ar “mynegi”? Os na fydd yn gwneud y tro yn y cyd-destun, beth am ragor o gyd-destun?

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 20 February 2013 11:07
To: [log in to unmask]
Subject: cyfathrebu

 

Oes modd defnyddio'r ferf cyfathrebu gyda gwrthrych?

 

To communicate your thoughts to someone.

 

Trosglwyddo, mynegi, traddodi neu ddweud sydd yn GyA.  Ydi "cyfathrebu eich meddyliau i rywun" yn chwithig, petai rhywun am gadw'r term cyfathrebu? Gen i deimlad ei fod ond dwnim pam.

 

Geraint

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5617 - Release Date: 02/19/13


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5617 - Release Date: 02/19/13


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5617 - Release Date: 02/19/13