Feddyliais i wedyn, os oes rhaid rhoi 'Cyfathrebu' yn bennawd, ei miglo hi allan o'r sefyllfa drwy ddeud "cyfathrebu a^ [pwy bynnag], h.y. cyfleu [beth bynnag ydi o]" y tro cynta, er mwyn cysylltu'r ddau air - y pennawd cyfathrebu a'r ferf cyfleu, wedyn o hynny ymlaen defnyddio cyfleu. Eglurhad bler braidd - ti'n gweld be sy gin i? Anna 2013/2/20 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > ** > Diolch i bawb - does gen i ddim byd yn erbyn cyfleu, dim ond wedi meddwl > efallai nad oedd yn union yr un ystyr iddo. Ond hwyrach mai wedi gorfeddwl > am y peth oeddwn i ac y byddai cyfleu'n gwneud i'r dim. > > ----- Original Message ----- > *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Wednesday, February 20, 2013 11:43 AM > *Subject:* Re: cyfathrebu > > Be sgin ti yn erbyn cyfleu? > > Anna > > 2013/2/20 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > >> ** >> Cyfarwyddiadau ar gyfer dysgu actorion sy gen i - dogfen reit faith efo >> llu o benawdau fel expression (mynegi) communication (cyfathrebu) ac ati. >> >> Dyna pam dwi ddim isio dechrau dweud mynegi am communicate yng nghorff y >> ddogfen. >> >> Ac mae traddodi yn nes at delivery a trosglwyddo yn transfer. >> >> Falle mai glynu at gyfathrebu fydd orau. >> >> ----- Original Message ----- >> *From:* Ann Corkett <[log in to unmask]> >> *To:* [log in to unmask] >> *Sent:* Wednesday, February 20, 2013 11:18 AM >> *Subject:* Re: cyfathrebu >> >> **** >> >> **** >> >> Ydy, mae’n swnion chwithig. Beth sy’n bod ar “mynegi”? Os na fydd yn >> gwneud y tro yn y cyd-destun, beth am ragor o gyd-destun?**** >> >> **** >> >> Ann**** >> ------------------------------ >> >> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Geraint >> Lovgreen >> *Sent:* 20 February 2013 11:07 >> *To:* [log in to unmask] >> *Subject:* cyfathrebu**** >> >> **** >> >> Oes modd defnyddio'r ferf cyfathrebu gyda gwrthrych?**** >> >> **** >> >> To communicate your thoughts to someone.**** >> >> **** >> >> Trosglwyddo, mynegi, traddodi neu ddweud sydd yn GyA. Ydi "cyfathrebu >> eich meddyliau i rywun" yn chwithig, petai rhywun am gadw'r term >> cyfathrebu? Gen i deimlad ei fod ond dwnim pam.**** >> >> **** >> >> Geraint**** >> >> No virus found in this message. >> Checked by AVG - www.avg.com >> Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5617 - Release Date: 02/19/13 >> >> > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5617 - Release Date: 02/19/13 > >