Print

Print


Ond mae 'mynd yn nos' hefyd yn golygu anghofio geiria - rhaid i 'corpse'
gyfleu chwerthin afreolus - naill ai ei wneud dy hun ne wneud i eraill
chwerthin, yn fwriadol. Roedd Peter O'Toole yn giamstar - mi fyddai'n
ymorol ei fod a'i gefn at y gynulleidfa ac yn chwara'r cast hwnnw ar ei
gydactorion, wincio'n ara deg iawn yn ddigon amdanyn nhw!

Anna

2013/2/18 Howard Huws <[log in to unmask]>

> “Paid â gadael iddi fynd yn nos arnat”?
>
> “Nac aed yn nos arnat”?
>