Cytuno ynghylch "Cymdeithas Bancio Canada" yn gwneud iddo swnio fel pe bai gwlad Canada yn cael ei bancio" Mae'n siwr bod y peth wedi'i gofrestru dan yr enw Saesneg felly hurt o beth ydi ei gyfieithu Anna 2013/2/15 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Deall y pwynt. Mae'n anodd gwybod lle mae tynnu'r llinell rhwng enw a > disgrifiad weithiau. > > Swn i'n cael fy nhemtio i adael yr enw yn Saesneg gan mai dyna yw enw'r > gymdeithas. > > Ar drywydd arall, onid "Cymdeithas Fancio Canada" fyddai'r enw Cymraeg? > Mae "Cymdeithas Bancio Canada" yn gwneud iddo swnio fel pe bai gwlad > Canada yn cael ei bancio yn hytrach na bod gan Ganada gymdeithas fancio. > > Siân > On 2013 Chwef 15, at 6:33 PM, anna gruffydd wrote: > > Gan ddeud hyn dwi'n disgwyl cael fy lambastio, ond faswn i ddim yn > cyfieithu enw na chwmni na chymdeithas nac oedfan - gwyliau, baswn, dwn i > ddim pam dwi'n teimlo eu bod nhw'n wahanol, weithia gwobra. Faswn i ddim yn > cyfieithu Gewandhaus Leipzig na Lincoln Center na'r Royal Albert Hall. Ac > i'm tyb i mae gan gymdeithasa etc eu priod enwa - ond os dyn nhw yng > Nghymru mae dadl dros eu cyfieithu. > > Anna > > 2013/2/15 Huw Tegid <[log in to unmask]> > >> Syniad da, Geraint. >> >> Roeddwn i ar fin cynnig rhywbeth arall, hefyd. Gan fod y Saesneg mor >> hoff o acronymau, tybed a ddylen ni ddefnyddio'r arf hwnnw weithiau pan >> fydd pethau fel hyn yn codi, e.e. "Y newid i CBS (Cymdeithas Bancio >> Canada)", gan roi'r cyfieithiad Cymraeg llawn ar ei ôl mewn cromfachau? >> Wnaiff o ddim gweithio bob tro, mi wn, ond mi allai fod yn handi weithiau. >> >> Cofion gorau, >> >> Huw >> >> -----Original Message----- >> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary >> [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint >> Lovgreen >> Sent: 15 February 2013 17:00 >> To: [log in to unmask] >> Subject: Re: Treigo enw corff swyddogol. >> >> Fasa'n fwy eglur dweud "y newid i fod yn gorff newydd, yn dwyn yr enw >> Cymdeithas Bancio Canada." >> Mae "i Cymdeithas" yn edrych yn od. I fi. >> >> ----- Original Message ----- >> From: "Howard Huws" <[log in to unmask]> >> To: <[log in to unmask]> >> Sent: Friday, February 15, 2013 4:41 PM >> Subject: Treigo enw corff swyddogol. >> >> >> Ga'i barn chi ynghylch treiglo enw corff swyddogol, gyfeillion? Yn >> bendodol, >> ai cywir dweud: >> >> "Y newid i Gymdeithas Bancio Canada" = "The change [that is happening] to >> the Canadian Banking Society" >> >> ond >> >> "Y newid i Cymdeithas Bancio Canada" = "The transition to [the new body >> that >> is] the Canadian Banking Society"? >> >> Beth yw'r farn? >> >> >> ----- >> No virus found in this message. >> Checked by AVG - www.avg.com >> Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5604 - Release Date: 02/14/13 >> >> ----- >> No virus found in this message. >> Checked by AVG - www.avg.com >> Version: 2013.0.2899 / Virus Database: 2639/6102 - Release Date: 02/13/13 >> > > >