Wrth chwilio’n ddiweddar am arweiniad ar y mater hwn, mi ddois ar draws adran ddefnyddiol yn Gramadeg Cymraeg David Thorne tud. 82 i 88. Mary From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd Sent: 15 February 2013 18:34 To: [log in to unmask] Subject: Re: Treigo enw corff swyddogol. Gan ddeud hyn dwi'n disgwyl cael fy lambastio, ond faswn i ddim yn cyfieithu enw na chwmni na chymdeithas nac oedfan - gwyliau, baswn, dwn i ddim pam dwi'n teimlo eu bod nhw'n wahanol, weithia gwobra. Faswn i ddim yn cyfieithu Gewandhaus Leipzig na Lincoln Center na'r Royal Albert Hall. Ac i'm tyb i mae gan gymdeithasa etc eu priod enwa - ond os dyn nhw yng Nghymru mae dadl dros eu cyfieithu. Anna 2013/2/15 Huw Tegid <[log in to unmask]> Syniad da, Geraint. Roeddwn i ar fin cynnig rhywbeth arall, hefyd. Gan fod y Saesneg mor hoff o acronymau, tybed a ddylen ni ddefnyddio'r arf hwnnw weithiau pan fydd pethau fel hyn yn codi, e.e. "Y newid i CBS (Cymdeithas Bancio Canada)", gan roi'r cyfieithiad Cymraeg llawn ar ei ôl mewn cromfachau? Wnaiff o ddim gweithio bob tro, mi wn, ond mi allai fod yn handi weithiau. Cofion gorau, Huw -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen Sent: 15 February 2013 17:00 To: [log in to unmask] Subject: Re: Treigo enw corff swyddogol. Fasa'n fwy eglur dweud "y newid i fod yn gorff newydd, yn dwyn yr enw Cymdeithas Bancio Canada." Mae "i Cymdeithas" yn edrych yn od. I fi. ----- Original Message ----- From: "Howard Huws" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Friday, February 15, 2013 4:41 PM Subject: Treigo enw corff swyddogol. Ga'i barn chi ynghylch treiglo enw corff swyddogol, gyfeillion? Yn bendodol, ai cywir dweud: "Y newid i Gymdeithas Bancio Canada" = "The change [that is happening] to the Canadian Banking Society" ond "Y newid i Cymdeithas Bancio Canada" = "The transition to [the new body that is] the Canadian Banking Society"? Beth yw'r farn? ----- No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5604 - Release Date: 02/14/13 ----- No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2013.0.2899 / Virus Database: 2639/6102 - Release Date: 02/13/13