Print

Print


Gan ddeud hyn dwi'n disgwyl cael fy lambastio, ond faswn i ddim yn cyfieithu enw na chwmni na chymdeithas nac oedfan - gwyliau, baswn, dwn i ddim pam dwi'n teimlo eu bod nhw'n wahanol, weithia gwobra. Faswn i ddim yn cyfieithu Gewandhaus Leipzig na Lincoln Center na'r Royal Albert Hall. Ac i'm tyb i mae gan gymdeithasa etc eu priod enwa - ond os dyn nhw yng Nghymru mae dadl dros eu cyfieithu.

Anna

2013/2/15 Huw Tegid <[log in to unmask]>
Syniad da, Geraint.

Roeddwn i ar fin cynnig rhywbeth arall, hefyd.  Gan fod y Saesneg mor hoff o acronymau, tybed a ddylen ni ddefnyddio'r arf hwnnw weithiau pan fydd pethau fel hyn yn codi, e.e. "Y newid i CBS (Cymdeithas Bancio Canada)", gan roi'r cyfieithiad Cymraeg llawn ar ei ôl mewn cromfachau?  Wnaiff o ddim gweithio bob tro, mi wn, ond mi allai fod yn handi weithiau.
 
Cofion gorau,
 
Huw

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 15 February 2013 17:00
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Treigo enw corff swyddogol.

Fasa'n fwy eglur dweud "y newid i fod yn gorff newydd, yn dwyn yr enw
Cymdeithas Bancio Canada."
Mae "i Cymdeithas" yn edrych yn od. I fi.

----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Friday, February 15, 2013 4:41 PM
Subject: Treigo enw corff swyddogol.


Ga'i barn chi ynghylch treiglo enw corff swyddogol, gyfeillion? Yn bendodol,
ai cywir dweud:

"Y newid i Gymdeithas Bancio Canada"  = "The change [that is happening] to
the Canadian Banking Society"

ond

"Y newid i Cymdeithas Bancio Canada" = "The transition to [the new body that
is] the Canadian Banking Society"?

Beth yw'r farn?


-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5604 - Release Date: 02/14/13

-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2013.0.2899 / Virus Database: 2639/6102 - Release Date: 02/13/13