Gan ddeud hyn dwi'n disgwyl cael fy lambastio, ond faswn i ddim yn cyfieithu enw na chwmni na chymdeithas nac oedfan - gwyliau, baswn, dwn i ddim pam dwi'n teimlo eu bod nhw'n wahanol, weithia gwobra. Faswn i ddim yn cyfieithu Gewandhaus Leipzig na Lincoln Center na'r Royal Albert Hall. Ac i'm tyb i mae gan gymdeithasa etc eu priod enwa - ond os dyn nhw yng Nghymru mae dadl dros eu cyfieithu. Anna 2013/2/15 Huw Tegid <[log in to unmask]> > Syniad da, Geraint. > > Roeddwn i ar fin cynnig rhywbeth arall, hefyd. Gan fod y Saesneg mor hoff > o acronymau, tybed a ddylen ni ddefnyddio'r arf hwnnw weithiau pan fydd > pethau fel hyn yn codi, e.e. "Y newid i CBS (Cymdeithas Bancio Canada)", > gan roi'r cyfieithiad Cymraeg llawn ar ei ôl mewn cromfachau? Wnaiff o > ddim gweithio bob tro, mi wn, ond mi allai fod yn handi weithiau. > > Cofion gorau, > > Huw > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen > Sent: 15 February 2013 17:00 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Treigo enw corff swyddogol. > > Fasa'n fwy eglur dweud "y newid i fod yn gorff newydd, yn dwyn yr enw > Cymdeithas Bancio Canada." > Mae "i Cymdeithas" yn edrych yn od. I fi. > > ----- Original Message ----- > From: "Howard Huws" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Friday, February 15, 2013 4:41 PM > Subject: Treigo enw corff swyddogol. > > > Ga'i barn chi ynghylch treiglo enw corff swyddogol, gyfeillion? Yn > bendodol, > ai cywir dweud: > > "Y newid i Gymdeithas Bancio Canada" = "The change [that is happening] to > the Canadian Banking Society" > > ond > > "Y newid i Cymdeithas Bancio Canada" = "The transition to [the new body > that > is] the Canadian Banking Society"? > > Beth yw'r farn? > > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5604 - Release Date: 02/14/13 > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2013.0.2899 / Virus Database: 2639/6102 - Release Date: 02/13/13 >