"Dechrau cymysgu â'r gynulleidfa" te?SiânOn 2013 Chwef 14, at 11:09 AM, anna gruffydd wrote:Wir-yr, taswn i'n gweld 'dechrau cymysgu' fel'na ar ei ben ei hun fasa gin 'm syniad be i'w ddisgwyl.
Anna
2013/2/14 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
'Dechrau cymysgu'----- Original Message -----From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffyddTo: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]Sent: Thursday, February 14, 2013 10:59 AMSubject: Re: mingleHynny'n tycio i ddisgrifio'r 'peth', ac mae na frawddeg rywle arall yn y ddogfen sy'n manylu ynghylch be maen nhw'n ei neud. Ond mae na amserlen mewn tabl a dyna lle mae'r mingling ('Mingling commences') felly roedd arna i eisiau ffordd llaw-fer o fynegi'r mingling.
Anna
2013/2/14 Neil Shadrach <[log in to unmask]>
Beth sy mor wael am rywbeth fel "Bydd cerddorion y BBC yn cymysgu â'r gynulleidfa gan gynnig y cyfle i ..." ?Methu deall beth sy mor arbennig am ystyr y gair mingle
2013/2/14 Catrin Alun <[log in to unmask]>
Ydy 'cYmdeithasu' yn rhy gryf tybed?
Sent from my iPhoneOce, 'rhoi tro' yn dda i ddim - ond i mi mae'n golygu mynd i weld rhywun yn hytrach na'i lindagu!!
Cytuno - cerdded ymysg yn iawn i ddosbarthu taflenni ond mae isio rhywbeth cryfach.
Dwi'n meddwl mai dod i blith/ganol ydi'r cynigion gorau hyd yn hyn (am eu bod nhw'n gneud mwy na sgwrsio). Diolch eto.
Anna
2013/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Mm - "rhoi tro am y gynulleidfa" yn swnio fel petaen nhw'n rhoi tro yng nghorn gwddw'r gynulleidfa neu'n eu dychryn! Ond efallai mai fi 'di hynny!Dydi "cerdded ymysg" ddim yn swnio fel petaen nhw'n siarad â'r gynulleidfa.Beth am "dod i sgwrsio â'r gynulleidfa" neu "dod i lawr i blith/ganol y gynulleidfa" ?Siân
On 2013 Chwef 14, at 8:45 AM, Neil Shadrach wrote:
"Mae'r wers wedi dechrau ers deg munud ac ar ôl gwneud ei chyflwyniad mae'r athrawes yn cerdded ymysg y myfyrwyr gan ddosbarthu taflenni"
2013/2/14 anna gruffydd <[log in to unmask]>
Posibilrwydd darodd fy mhen i ar ol i mi anfon y neges neithiwr - y corddorion yn rhoi tro am y gynulleidfa...? Meddwl bod hynny'n swnio ella'n fwy bwriadus. Ta ydi o'n drychinebus?
Anna
2013/2/13 Sian Jones <[log in to unmask]>
Bydd y cerddorion yn crwydro drwy'r gynulleidfa.... ?Dwn im ai hynny maen nhw'n olygu?
Sian
Date: Wed, 13 Feb 2013 21:46:52 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: mingle
To: [log in to unmask]
Mae'r ferf yma wedi bod yn gur pen i mi droeon. Gair bach snec i gyfleu cymdeithasu anffurfiol - y disgrifiad ydi:-
BBC musicians will be mingling with the audience offering the chance for children and adults to try out the musical instruments etc.
Diolch am rywbeth bachog, byr a braf.
AnnaNo virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5602 - Release Date: 02/13/13