Ydi o wir? Mi oedd na gythral bach yn fy mhen i'n ystyried 'minglo'...

Anna

2013/2/14 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Mae 'minglo' wedi hen ennill ei blwy ar lafar wrth gwrs.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Thursday, February 14, 2013 11:03 AM
Subject: Re: mingle

'Cymdeithasu' yn rhy benodol a 'pharti coctel' ei ystyr dwi'n meddwl, nid dim ond sgwrsio maen nhw - mae pobol yn cael rhoi cynnig ar ganu eu hofferynnau nhw hefyd felly mae na elfen sydd bron yn addysgol ac sy'n gaffaeliad i'r bobol fyddar. Ella mod i'n gneud mor a mynydd o hyn - mae na ddisgrifiad o be maen nhw'n ei neud yn y ddogfen felly dwi'n teimlo mai rhywbeth penagored fel i blith/ymhlith/ yng nghanol ydi'r dewis gora. Deadline ffla

2013/2/14 Catrin Alun <[log in to unmask]>
Ydy 'cYmdeithasu' yn rhy gryf tybed?

Sent from my iPhone

On 14 Feb 2013, at 09:53, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote:

Oce, 'rhoi tro' yn dda i ddim - ond i mi mae'n golygu mynd i weld rhywun yn hytrach na'i lindagu!!

Cytuno - cerdded ymysg yn iawn i ddosbarthu taflenni ond mae isio rhywbeth cryfach.

Dwi'n meddwl mai dod i blith/ganol ydi'r cynigion gorau hyd yn hyn (am eu bod nhw'n gneud mwy na sgwrsio). Diolch eto.

Anna

2013/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Mm - "rhoi tro am y gynulleidfa" yn swnio fel petaen nhw'n rhoi tro yng nghorn gwddw'r gynulleidfa neu'n eu dychryn!  Ond efallai mai fi 'di hynny!

Dydi "cerdded ymysg" ddim yn swnio fel petaen nhw'n siarad â'r gynulleidfa.

Beth am "dod i sgwrsio â'r gynulleidfa" neu "dod i lawr i blith/ganol y gynulleidfa" ?

Siân



On 2013 Chwef 14, at 8:45 AM, Neil Shadrach wrote:

"Mae'r wers wedi dechrau ers deg munud ac ar ôl gwneud ei chyflwyniad mae'r athrawes yn cerdded ymysg y myfyrwyr gan ddosbarthu taflenni"


2013/2/14 anna gruffydd <[log in to unmask]>
Posibilrwydd darodd fy mhen i ar ol i mi anfon y neges neithiwr - y corddorion yn rhoi tro am y gynulleidfa...? Meddwl bod hynny'n swnio ella'n fwy bwriadus. Ta ydi o'n drychinebus?

Anna

2013/2/13 Sian Jones <[log in to unmask]>
Bydd y cerddorion yn crwydro drwy'r gynulleidfa.... ?  

Dwn im ai hynny maen nhw'n olygu?

Sian


Date: Wed, 13 Feb 2013 21:46:52 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: mingle
To: [log in to unmask]

Mae'r ferf yma wedi bod yn gur pen i mi droeon. Gair bach snec i gyfleu cymdeithasu anffurfiol - y disgrifiad ydi:-

BBC musicians will be mingling with the audience offering the chance for children and adults to try out the musical instruments etc.

Diolch am rywbeth bachog, byr a braf.

Anna





No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5602 - Release Date: 02/13/13