Ydi o wir? Mi oedd na gythral bach yn fy mhen i'n ystyried 'minglo'... Anna 2013/2/14 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]> > ** > Mae 'minglo' wedi hen ennill ei blwy ar lafar wrth gwrs. > > ----- Original Message ----- > *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Thursday, February 14, 2013 11:03 AM > *Subject:* Re: mingle > > 'Cymdeithasu' yn rhy benodol a 'pharti coctel' ei ystyr dwi'n meddwl, nid > dim ond sgwrsio maen nhw - mae pobol yn cael rhoi cynnig ar ganu eu > hofferynnau nhw hefyd felly mae na elfen sydd bron yn addysgol ac sy'n > gaffaeliad i'r bobol fyddar. Ella mod i'n gneud mor a mynydd o hyn - mae na > ddisgrifiad o be maen nhw'n ei neud yn y ddogfen felly dwi'n teimlo mai > rhywbeth penagored fel i blith/ymhlith/ yng nghanol ydi'r dewis gora. > Deadline ffla > > 2013/2/14 Catrin Alun <[log in to unmask]> > >> Ydy 'cYmdeithasu' yn rhy gryf tybed? >> >> Sent from my iPhone >> >> On 14 Feb 2013, at 09:53, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote: >> >> Oce, 'rhoi tro' yn dda i ddim - ond i mi mae'n golygu mynd i weld >> rhywun yn hytrach na'i lindagu!! >> >> Cytuno - cerdded ymysg yn iawn i ddosbarthu taflenni ond mae isio >> rhywbeth cryfach. >> >> Dwi'n meddwl mai dod i blith/ganol ydi'r cynigion gorau hyd yn hyn (am eu >> bod nhw'n gneud mwy na sgwrsio). Diolch eto. >> >> Anna >> >> 2013/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]> >> >>> Mm - "rhoi tro am y gynulleidfa" yn swnio fel petaen nhw'n rhoi tro yng >>> nghorn gwddw'r gynulleidfa neu'n eu dychryn! Ond efallai mai fi 'di hynny! >>> >>> Dydi "cerdded ymysg" ddim yn swnio fel petaen nhw'n siarad â'r >>> gynulleidfa. >>> >>> Beth am "dod i sgwrsio â'r gynulleidfa" neu "dod i lawr i blith/ganol y >>> gynulleidfa" ? >>> >>> Siân >>> >>> >>> >>> On 2013 Chwef 14, at 8:45 AM, Neil Shadrach wrote: >>> >>> "Mae'r wers wedi dechrau ers deg munud ac ar ôl gwneud ei chyflwyniad >>> mae'r athrawes yn *cerdded ymysg y* myfyrwyr gan ddosbarthu taflenni" >>> ( >>> http://www.llaisdisgyblioncymru.org.uk/cymraeg/uwchradd/astudiaethau-achos/the-impact-of-the-14-19-learning-pathways-agenda-on-the-young-people-of-bridgend-case-study-1/) >>> >>> >>> 2013/2/14 anna gruffydd <[log in to unmask]> >>> >>>> Posibilrwydd darodd fy mhen i ar ol i mi anfon y neges neithiwr - y >>>> corddorion yn rhoi tro am y gynulleidfa...? Meddwl bod hynny'n swnio ella'n >>>> fwy bwriadus. Ta ydi o'n drychinebus? >>>> >>>> Anna >>>> >>>> 2013/2/13 Sian Jones <[log in to unmask]> >>>> >>>>> Bydd y cerddorion yn crwydro drwy'r gynulleidfa.... ? >>>>> >>>>> Dwn im ai hynny maen nhw'n olygu? >>>>> >>>>> Sian >>>>> >>>>> ------------------------------ >>>>> Date: Wed, 13 Feb 2013 21:46:52 +0100 >>>>> From: [log in to unmask] >>>>> Subject: mingle >>>>> To: [log in to unmask] >>>>> >>>>> Mae'r ferf yma wedi bod yn gur pen i mi droeon. Gair bach snec i >>>>> gyfleu cymdeithasu anffurfiol - y disgrifiad ydi:- >>>>> >>>>> BBC musicians will be mingling with the audience offering the chance >>>>> for children and adults to try out the musical instruments etc. >>>>> >>>>> Diolch am rywbeth bachog, byr a braf. >>>>> >>>>> Anna >>>>> >>>> >>>> >>> >>> >> > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2238 / Virus Database: 2639/5602 - Release Date: 02/13/13 > >