Oce, 'rhoi tro' yn dda i ddim - ond i mi mae'n golygu mynd i weld rhywun yn hytrach na'i lindagu!!
Cytuno - cerdded ymysg yn iawn i ddosbarthu taflenni ond mae isio rhywbeth cryfach.
Dwi'n meddwl mai dod i blith/ganol ydi'r cynigion gorau hyd yn hyn (am eu bod nhw'n gneud mwy na sgwrsio). Diolch eto.
Anna
2013/2/14 Sian Roberts
<[log in to unmask]>
Mm - "rhoi tro am y gynulleidfa" yn swnio fel petaen nhw'n rhoi tro yng nghorn gwddw'r gynulleidfa neu'n eu dychryn! Ond efallai mai fi 'di hynny!
Dydi "cerdded ymysg" ddim yn swnio fel petaen nhw'n siarad â'r gynulleidfa.
Beth am "dod i sgwrsio â'r gynulleidfa" neu "dod i lawr i blith/ganol y gynulleidfa" ?
Siân
On 2013 Chwef 14, at 8:45 AM, Neil Shadrach wrote:
"
Mae'r wers wedi dechrau ers deg munud ac ar ôl gwneud ei chyflwyniad mae'r athrawes yn cerdded ymysg y myfyrwyr gan ddosbarthu taflenni"