Ydy 'cYmdeithasu' yn rhy gryf tybed? Sent from my iPhone On 14 Feb 2013, at 09:53, anna gruffydd <[log in to unmask]> wrote: > Oce, 'rhoi tro' yn dda i ddim - ond i mi mae'n golygu mynd i weld rhywun yn hytrach na'i lindagu!! > > Cytuno - cerdded ymysg yn iawn i ddosbarthu taflenni ond mae isio rhywbeth cryfach. > > Dwi'n meddwl mai dod i blith/ganol ydi'r cynigion gorau hyd yn hyn (am eu bod nhw'n gneud mwy na sgwrsio). Diolch eto. > > Anna > > 2013/2/14 Sian Roberts <[log in to unmask]> >> Mm - "rhoi tro am y gynulleidfa" yn swnio fel petaen nhw'n rhoi tro yng nghorn gwddw'r gynulleidfa neu'n eu dychryn! Ond efallai mai fi 'di hynny! >> >> Dydi "cerdded ymysg" ddim yn swnio fel petaen nhw'n siarad â'r gynulleidfa. >> >> Beth am "dod i sgwrsio â'r gynulleidfa" neu "dod i lawr i blith/ganol y gynulleidfa" ? >> >> Siân >> >> >> >> On 2013 Chwef 14, at 8:45 AM, Neil Shadrach wrote: >> >>> "Mae'r wers wedi dechrau ers deg munud ac ar ôl gwneud ei chyflwyniad mae'r athrawes yn cerdded ymysg y myfyrwyr gan ddosbarthu taflenni" >>> ( http://www.llaisdisgyblioncymru.org.uk/cymraeg/uwchradd/astudiaethau-achos/the-impact-of-the-14-19-learning-pathways-agenda-on-the-young-people-of-bridgend-case-study-1/ ) >>> >>> >>> 2013/2/14 anna gruffydd <[log in to unmask]> >>>> Posibilrwydd darodd fy mhen i ar ol i mi anfon y neges neithiwr - y corddorion yn rhoi tro am y gynulleidfa...? Meddwl bod hynny'n swnio ella'n fwy bwriadus. Ta ydi o'n drychinebus? >>>> >>>> Anna >>>> >>>> 2013/2/13 Sian Jones <[log in to unmask]> >>>>> Bydd y cerddorion yn crwydro drwy'r gynulleidfa.... ? >>>>> >>>>> Dwn im ai hynny maen nhw'n olygu? >>>>> >>>>> Sian >>>>> >>>>> Date: Wed, 13 Feb 2013 21:46:52 +0100 >>>>> From: [log in to unmask] >>>>> Subject: mingle >>>>> To: [log in to unmask] >>>>> >>>>> Mae'r ferf yma wedi bod yn gur pen i mi droeon. Gair bach snec i gyfleu cymdeithasu anffurfiol - y disgrifiad ydi:- >>>>> >>>>> BBC musicians will be mingling with the audience offering the chance for children and adults to try out the musical instruments etc. >>>>> >>>>> Diolch am rywbeth bachog, byr a braf. >>>>> >>>>> Anna >