Dwi’n siŵr i mi weld ‘e-lyth’ yn nyddiau cynnar gohebu drwy’r cyfrwng hwn. Ddaru hwnnw’n bendant ddim gafael, ond mae’r gair ‘llythyr’ yn ddiddorol – ydi mwy nag un o’r rhain yn ‘llythyrau’ ynteu’n ‘llythyron’ i chi?
Efallai y bydd yn rhaid i ni dderbyn fod ’na wahaniaeth barn ar ffurf lluosog ‘e-bost’, yn yr un modd â pheth mor gyfarwydd â ‘llythyr’.
Cofion gorau,
Huw
(O.N. dwi’n dal i roi’r cysylltnod yn e-bost, ond yn cydnabod fy mod i’n colli’r ddadl honno. Fiw i mi gynnig rhywbeth arall i godi gwrychyn pobl!!)
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 03 January 2013 13:12
‘Rwy’n siwr bod hyn wedi’i drafod o’r blaen ond ni allaf ddod o hyd iddo.
Neges a ddaeth trwy’r post electronig yw e-bost, felly mae’n biti na ddefnyddiwyd rhywbeth fel e-neges(euon) ar y cychwyn, ond ddaw o byth yn boblogaidd rwan.
Ann
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 03 January 2013 12:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ebyst
Deud da eto.
Anna2013/1/3 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
Cytuno - diolch Matthew!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" target="_blank">Matthew Clubb [auc]
To: [log in to unmask]" target="_blank"> [log in to unmask]
Sent: Thursday, January 03, 2013 12:16 PM
Subject: ATB: ebyst
Ond yw hi'n newid braf cael gair newydd yn y Gymraeg nad oes angen rhoi'r terfyniad '-(i)au' na '-s' i ffurfio'r lluosog?
Hyfryd iawn, yr hen ffordd Gymreig o lunio'r lluosog drwy effeithiad: (o>y) ffon > ffyn, ffordd > ffyrdd, Cymro > Cymry, ac ebost > ebyst (yn cyd-fynd yn union â phatrwm yr hen ffurf luosog ar 'esgob' > esgyb!).
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 03 Ionawr 2013 11:40
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ebystOnd pe bai gan "post", yn yr ystyr "mail", luosog - go brin mai "pyst" fyddai hwnnw.
Rwy'n gyndyn o'i ddefnyddio mewn dogfen ffurfiol.
Gyda llaw, mae'r darn hwn yn dod o ddogfen a gyfieithais i a'i dychwelyd cyn y Nadolig.
Bu'r cwsmer yn gweithio arni dros y gwyliau a sylwi bod dau baragraff i'w hychwanegu.
Yn hytrach na'm styrbio i dros y gwyliau, fe roddodd nhw trwy Google Translate a nawr mae wedi gofyn i mi edrych drostynt (chware teg iddo!).
Maen nhw'n syndod o gywir - dw i ddim yn siwr ydi hyn yn beth da 'ta'n beth drwg!
Siân
On 2013 Ion 3, at 10:22 AM, anna gruffydd wrote:
Dyna on inna di'i feddwl hefyd, mwy ne lai - joc wedi ennill ei blwy, nid yn gymaint oherwydd anwybodaeth ond oherwydd hoffter at y gair - mae'n fachog, a chanddo gynsail barchus - e.e. post, pyst. Fasa'n dda gen i iddo fod yn dderbyniol mewn unrhyw gyd-destun.
Anna2013/1/3 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Wir?
Ro'n i'n meddwl ei fod wedi cychwyn fel jôc ond bod rhai pobl wedi dechrau ei gymryd o ddifri mewn anwybodaeth.
Dal i swnio'n ddigri i mi!
Siân
On 2013 Ion 3, at 10:05 AM, Saunders, Tim wrote:
> Roedd e'n ddigon dderbyniol ddeng mlynedd yn ôl - dim rheswm i feddwl fod hyn wedi newid.
>
> Yn iach,
>
> T
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 03 January 2013 10:03
> To: [log in to unmask]
> Subject: ebyst
>
> Helo
>
> Ydi "ebyst" yn dderbyniol bellach?
> Rwy'n darllen proflenni sy'n dweud "Byddwn yn anfon ebyst". Mae'n dal i 'nharo i'n rhyfedd ond mae'n digwydd yng ngeiriadur arlein y BBC ac yn y Porth Termau (Termau Cyfathrebu) ac mae iddo'r fantais o fod yn fyr!
>
> Diolch
>
> Siân
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>
> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2637/5505 - Release Date: 01/02/13
Version: 2013.0.2805 / Virus Database: 2637/6002 - Release Date: 01/01/13