Print

Print


Byddwn i'n dadansoddi enghraifft Siân fel esiampl o duedd y Saesneg i ollwng yr enw a chadw'r ansoddair: "email (message)", "email (address)", ayb


2013/1/3 anna gruffydd <[log in to unmask]>
Yn ateb i bwynt diweddara Neil - maddeuwch i mi gyfeillion os dwi allan o drefn ond mae Gmail neu hwyrach Jiscmail yn poitsio trefn petha i mi - onid ydi email bellach hefyd yn golygu nid yn unig y cyfrwng ond y llythyr neu'r neges ei hun? felly mae'n bur fuddiol cael rhywbeth all olygu neges unigol, run fath a post/pyst/postiau ar wefannau - does na ddim enghraifft yn neidio i mhen i yn y fan, ond dwi'n cofio bod angen gair o'r fath beth amser yn ol.

Anna

2013/1/3 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Cweit!

Ar ben hyn i gyd, mae "email" yn cael ei ddefnyddio yn y darn dan sylw i olygu "email address":
"If you decide not enter your email, please accept our apologies in advance for any reminders you may receive."

Rwy'n cymryd mai'r peth naturiol fyddai dweud "cyfeiriad ebost" yn y Gymraeg.

Diolch

Siân
On 2013 Ion 3, at 12:48 PM, Neil Shadrach wrote:

Rwy yr un mor hoff o ffurfiau lluosog traddodial ond nid cynhyrchu ffurf luosog newydd sydd ei hangen sy'n digwydd fan hyn ond camddehongli gair am y gwasanaeth ( ebost ) am rhywbeth sy'n cael ei anfon trwy'r gwasanaeth ( y neges ). Colli gair gyda swyddogaeth benodol fyddai hynny.

Pe bydden ni'n trafod lluniau dyfrlliw/olew/acrylig/siarcol a rhai yn dadlau dros alw'r cyntaf yn "dyfrlliwiau" yn lle "lluniau" neu "lluniau dyfrlliw" ( os oedd angen gwahaniaethu ) bydden ni wedi colli'r term am y cyfrwng.

Fel mae'n digwydd rwy'n gweithio ar system ar hyn o bryd sy'n anfon negeseuon 'electronig' o sawl math. Weithiau mae modd dewis y cyfrwng - neges ebost normal, neges trwy'r system ei hunan ( rhaid mewngofnodi ar y We i'w gweld ), neges testun ( SMS ), ayb. Negeseuon ydyn nhw i gyd a fel negeseuon bydda i'n vyfeirio atyn nhw oni bai bod y cyfrwng yn berthnasol. Byddai hepgor y term 'neges' yn golled.



2013/1/3 Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]>
Ond yw hi'n newid braf cael gair newydd yn y Gymraeg nad oes angen rhoi'r terfyniad '-(i)au' na '-s' i ffurfio'r lluosog?
 
Hyfryd iawn, yr hen ffordd Gymreig o lunio'r lluosog drwy effeithiad: (o>y) ffon > ffyn, ffordd > ffyrdd, Cymro > Cymry, ac ebost > ebyst (yn cyd-fynd yn union â phatrwm yr hen ffurf luosog ar 'esgob' > esgyb!).
 
 

Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 03 Ionawr 2013 11:40
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ebyst

Ond pe bai gan "post", yn yr ystyr "mail", luosog - go brin mai "pyst" fyddai hwnnw.

Rwy'n gyndyn o'i ddefnyddio mewn dogfen ffurfiol.

Gyda llaw, mae'r darn hwn yn dod o ddogfen a gyfieithais i a'i dychwelyd cyn y Nadolig.
Bu'r cwsmer yn gweithio arni dros y gwyliau a sylwi bod dau baragraff i'w hychwanegu.
Yn hytrach na'm styrbio i dros y gwyliau, fe roddodd nhw trwy Google Translate a nawr mae wedi gofyn i mi edrych drostynt (chware teg iddo!).
Maen nhw'n syndod o gywir - dw i ddim yn siwr ydi hyn yn beth da 'ta'n beth drwg!

Siân

On 2013 Ion 3, at 10:22 AM, anna gruffydd wrote:

Dyna on inna di'i feddwl hefyd, mwy ne lai - joc wedi ennill ei blwy, nid yn gymaint oherwydd anwybodaeth ond oherwydd hoffter at y gair - mae'n fachog, a chanddo gynsail barchus - e.e. post, pyst. Fasa'n dda gen i iddo fod yn dderbyniol mewn unrhyw gyd-destun.

Anna

2013/1/3 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Wir?
Ro'n i'n meddwl ei fod wedi cychwyn fel jôc ond bod rhai pobl wedi dechrau ei gymryd o ddifri mewn anwybodaeth.
Dal i swnio'n ddigri i mi!

Siân



On 2013 Ion 3, at 10:05 AM, Saunders, Tim wrote:

> Roedd e'n ddigon dderbyniol ddeng mlynedd yn ôl - dim rheswm i feddwl fod hyn wedi newid.
>
> Yn iach,
>
> T
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 03 January 2013 10:03
> To: [log in to unmask]
> Subject: ebyst
>
> Helo
>
> Ydi "ebyst" yn dderbyniol bellach?
> Rwy'n darllen proflenni sy'n dweud "Byddwn yn anfon ebyst".  Mae'n dal i 'nharo i'n rhyfedd ond mae'n digwydd yng ngeiriadur arlein y BBC ac yn y Porth Termau (Termau Cyfathrebu) ac mae iddo'r fantais o fod yn fyr!
>
> Diolch
>
> Siân
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>
> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad