Byddwn i'n dadansoddi enghraifft Siân fel esiampl o duedd y Saesneg i ollwng yr enw a chadw'r ansoddair: "email (message)", "email (address)", ayb 2013/1/3 anna gruffydd <[log in to unmask]> > Yn ateb i bwynt diweddara Neil - maddeuwch i mi gyfeillion os dwi allan o > drefn ond mae Gmail neu hwyrach Jiscmail yn poitsio trefn petha i mi - onid > ydi email bellach hefyd yn golygu nid yn unig y cyfrwng ond y llythyr neu'r > neges ei hun? felly mae'n bur fuddiol cael rhywbeth all olygu neges unigol, > run fath a post/pyst/postiau ar wefannau - does na ddim enghraifft yn > neidio i mhen i yn y fan, ond dwi'n cofio bod angen gair o'r fath beth > amser yn ol. > > Anna > > 2013/1/3 Sian Roberts <[log in to unmask]> > >> Cweit! >> >> Ar ben hyn i gyd, mae "email" yn cael ei ddefnyddio yn y darn dan sylw i >> olygu "email address": >> "If you decide not enter your email, please accept our apologies in >> advance for any reminders you may receive." >> >> Rwy'n cymryd mai'r peth naturiol fyddai dweud "cyfeiriad ebost" yn y >> Gymraeg. >> >> Diolch >> >> Siân >> On 2013 Ion 3, at 12:48 PM, Neil Shadrach wrote: >> >> Rwy yr un mor hoff o ffurfiau lluosog traddodial ond nid cynhyrchu ffurf >> luosog newydd sydd ei hangen sy'n digwydd fan hyn ond camddehongli gair am >> y gwasanaeth ( ebost ) am rhywbeth sy'n cael ei anfon trwy'r gwasanaeth ( y >> neges ). Colli gair gyda swyddogaeth benodol fyddai hynny. >> >> Pe bydden ni'n trafod lluniau dyfrlliw/olew/acrylig/siarcol a rhai yn >> dadlau dros alw'r cyntaf yn "dyfrlliwiau" yn lle "lluniau" neu "lluniau >> dyfrlliw" ( os oedd angen gwahaniaethu ) bydden ni wedi colli'r term am y >> cyfrwng. >> >> Fel mae'n digwydd rwy'n gweithio ar system ar hyn o bryd sy'n anfon >> negeseuon 'electronig' o sawl math. Weithiau mae modd dewis y cyfrwng - >> neges ebost normal, neges trwy'r system ei hunan ( rhaid mewngofnodi ar y >> We i'w gweld ), neges testun ( SMS ), ayb. Negeseuon ydyn nhw i gyd a fel >> negeseuon bydda i'n vyfeirio atyn nhw oni bai bod y cyfrwng yn berthnasol. >> Byddai hepgor y term 'neges' yn golled. >> >> >> >> 2013/1/3 Matthew Clubb [auc] <[log in to unmask]> >> >>> ** >>> Ond yw hi'n newid braf cael gair newydd yn y Gymraeg nad oes >>> angen rhoi'r terfyniad '-(i)au' na '-s' i ffurfio'r lluosog? >>> >>> Hyfryd iawn, yr hen ffordd Gymreig o lunio'r lluosog drwy effeithiad: >>> (o>y) ffon > ffyn, ffordd > ffyrdd, Cymro > Cymry, ac ebost > ebyst (yn >>> cyd-fynd yn union â phatrwm yr hen ffurf luosog ar 'esgob' > esgyb!). >>> >>> >>> ------------------------------ >>> *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology >>> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Sian >>> Roberts >>> *Anfonwyd/Sent:* 03 Ionawr 2013 11:40 >>> *At/To:* [log in to unmask] >>> *Pwnc/Subject:* Re: ebyst >>> >>> Ond pe bai gan "post", yn yr ystyr "mail", luosog - go brin mai "pyst" >>> fyddai hwnnw. >>> >>> Rwy'n gyndyn o'i ddefnyddio mewn dogfen ffurfiol. >>> >>> Gyda llaw, mae'r darn hwn yn dod o ddogfen a gyfieithais i a'i >>> dychwelyd cyn y Nadolig. >>> Bu'r cwsmer yn gweithio arni dros y gwyliau a sylwi bod dau baragraff >>> i'w hychwanegu. >>> Yn hytrach na'm styrbio i dros y gwyliau, fe roddodd nhw trwy Google >>> Translate a nawr mae wedi gofyn i mi edrych drostynt (chware teg iddo!). >>> Maen nhw'n syndod o gywir - dw i ddim yn siwr ydi hyn yn beth da 'ta'n >>> beth drwg! >>> >>> Siân >>> >>> On 2013 Ion 3, at 10:22 AM, anna gruffydd wrote: >>> >>> Dyna on inna di'i feddwl hefyd, mwy ne lai - joc wedi ennill ei blwy, >>> nid yn gymaint oherwydd anwybodaeth ond oherwydd hoffter at y gair - mae'n >>> fachog, a chanddo gynsail barchus - e.e. post, pyst. Fasa'n dda gen i iddo >>> fod yn dderbyniol mewn unrhyw gyd-destun. >>> >>> Anna >>> >>> 2013/1/3 Sian Roberts <[log in to unmask]> >>> >>>> Wir? >>>> Ro'n i'n meddwl ei fod wedi cychwyn fel jôc ond bod rhai pobl wedi >>>> dechrau ei gymryd o ddifri mewn anwybodaeth. >>>> Dal i swnio'n ddigri i mi! >>>> >>>> Siân >>>> >>>> >>>> >>>> On 2013 Ion 3, at 10:05 AM, Saunders, Tim wrote: >>>> >>>> > Roedd e'n ddigon dderbyniol ddeng mlynedd yn ôl - dim rheswm i feddwl >>>> fod hyn wedi newid. >>>> > >>>> > Yn iach, >>>> > >>>> > T >>>> > >>>> > -----Original Message----- >>>> > From: Discussion of Welsh language technical terminology and >>>> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of >>>> Sian Roberts >>>> > Sent: 03 January 2013 10:03 >>>> > To: [log in to unmask] >>>> > Subject: ebyst >>>> > >>>> > Helo >>>> > >>>> > Ydi "ebyst" yn dderbyniol bellach? >>>> > Rwy'n darllen proflenni sy'n dweud "Byddwn yn anfon ebyst". Mae'n >>>> dal i 'nharo i'n rhyfedd ond mae'n digwydd yng ngeiriadur arlein y BBC ac >>>> yn y Porth Termau (Termau Cyfathrebu) ac mae iddo'r fantais o fod yn fyr! >>>> > >>>> > Diolch >>>> > >>>> > Siân >>>> > This transmission is intended for the named addressee(s) only and may >>>> contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and >>>> should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or >>>> authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or >>>> disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error >>>> please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be >>>> subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant >>>> legislation >>>> > >>>> > For the full disclaimer please access >>>> http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer >>>> > >>>> > >>>> > >>>> > Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys >>>> deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid >>>> ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes >>>> gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei >>>> chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn >>>> y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar >>>> unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r >>>> ddeddfwriaeth berthnasol. >>>> > I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad >>>> >>> >>> >>> >> >> >