Ydi pobol yn defnyddio "D^wr Cymru Welsh Water" mewn cyfieithiadau Cymraeg? Dwi wastad yn hepgor y "Welsh Water" yn Gymraeg.
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Carolyn
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Thursday, January 10, 2013 10:35 AM
Subject: ATB: Treiglo Enwau Rhaglenni/Cynlluniau

Dw i'n meddwl mai'r un broblem sy'n codi mewn sawl maes yw hwn - os yw'r enw'n ddisgrifiadol e.e. Geiriadur Prifysgol Cymru, mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n naturiol treiglo. Mae 'gweithio i Dŵr Cymru' yn swnio'n od iawn i mi hefyd Siân, er na fyddwn innau chwiath yn treiglo 'Dŵr Cymru Welsh Water' a bosib bod 'Glastir' yn fwy o 'enw gwneud' yn y cyswllt yma. Dilyn fy ngreddf fydda'i fel rheol ond dw i'n sylwi mod i'n anghyson.

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 10 Ionawr 2013 10:32
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Treiglo Enwau Rhaglenni/Cynlluniau

 

Yn yr enghraifft honno, Glastir, fyddwn i ddim yn treiglo.

Rwy newydd ddweud bod rhywun yn gweithio i Ddŵr Cymru ond pe bai'r ffurf "Dŵr Cymru Welsh Water" yn cael ei ddefnyddio, fyddwn i ddim yn treiglo.

 

Mae Rhiannon Ifans yn rhoi'r enghraifft:  "Edrychais drwy Geiriadur Prifysgol Cymru i gadarnhau'r sillafiad". 

Dw i ddim yn siwr am hynny!

 

Siân

 

 

 

 

On 2013 Ion 10, at 9:48 AM, Carolyn wrote:



Pan fydd enw Cymraeg ar raglen neu gynllun e.e. Glastir - a fyddwch chi fel rheol yn eu treiglo? Fydda i'n ceisio osgoi'r broblem gan amla drwy roi 'cynllun/rhaglen' o flaen yr enw ond weithiau mae hynny'n anodd. Be ydi'r arfer yn gyffredinol?

 

e.e. wrth feddwl am Lastir / wrth feddwl am Glastir?

Carolyn

 

 

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2637/5522 - Release Date: 01/09/13