Ydi pobol yn defnyddio "D^wr Cymru Welsh Water" mewn cyfieithiadau Cymraeg? Dwi wastad yn hepgor y "Welsh Water" yn Gymraeg. ----- Original Message ----- From: Carolyn To: [log in to unmask] Sent: Thursday, January 10, 2013 10:35 AM Subject: ATB: Treiglo Enwau Rhaglenni/Cynlluniau Dw i'n meddwl mai'r un broblem sy'n codi mewn sawl maes yw hwn - os yw'r enw'n ddisgrifiadol e.e. Geiriadur Prifysgol Cymru, mae'n ymddangos i mi ei bod hi'n naturiol treiglo. Mae 'gweithio i Dŵr Cymru' yn swnio'n od iawn i mi hefyd Siân, er na fyddwn innau chwiath yn treiglo 'Dŵr Cymru Welsh Water' a bosib bod 'Glastir' yn fwy o 'enw gwneud' yn y cyswllt yma. Dilyn fy ngreddf fydda'i fel rheol ond dw i'n sylwi mod i'n anghyson. Carolyn ------------------------------------------------------------------------------ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts Anfonwyd/Sent: 10 Ionawr 2013 10:32 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Treiglo Enwau Rhaglenni/Cynlluniau Yn yr enghraifft honno, Glastir, fyddwn i ddim yn treiglo. Rwy newydd ddweud bod rhywun yn gweithio i Ddŵr Cymru ond pe bai'r ffurf "Dŵr Cymru Welsh Water" yn cael ei ddefnyddio, fyddwn i ddim yn treiglo. Mae Rhiannon Ifans yn rhoi'r enghraifft: "Edrychais drwy Geiriadur Prifysgol Cymru i gadarnhau'r sillafiad". Dw i ddim yn siwr am hynny! Siân On 2013 Ion 10, at 9:48 AM, Carolyn wrote: Pan fydd enw Cymraeg ar raglen neu gynllun e.e. Glastir - a fyddwch chi fel rheol yn eu treiglo? Fydda i'n ceisio osgoi'r broblem gan amla drwy roi 'cynllun/rhaglen' o flaen yr enw ond weithiau mae hynny'n anodd. Be ydi'r arfer yn gyffredinol? e.e. wrth feddwl am Lastir / wrth feddwl am Glastir? Carolyn No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2637/5522 - Release Date: 01/09/13