Diolch. Tŷ Mawr yn enghraifft dda -
drwy dreiglo mae'n awgrymu 'unrhyw dŷ mawr' o bosib er bod y
priflythrennau'n dangos mai enw priod yw hwn.
Enghraifft arall wedi codi - "trafod â
C/Chroeso Cymru"
Carolyn
Oddi wrth/From:
Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] Ar
ran anna gruffydd
Anfonwyd/Sent: 10 Ionawr 2013
10:25
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Treiglo Enwau
Rhaglenni/Cynlluniau
Ddaru Ty Mawr ddeud wrtha
i na dydyn nhw ddim yn treiglo, os di hynna'n unrhyw gymorth neu arweiniad.
Anna
2013/1/10 Carolyn <[log in to unmask]>
Pan
fydd enw Cymraeg ar raglen neu gynllun e.e. Glastir - a fyddwch chi fel rheol
yn eu treiglo? Fydda i'n ceisio osgoi'r broblem gan amla drwy roi
'cynllun/rhaglen' o flaen yr enw ond weithiau mae hynny'n anodd. Be ydi'r arfer
yn gyffredinol?
e.e.
wrth feddwl am Lastir / wrth feddwl am Glastir?
Carolyn