Print

Print


Diolch bawb. Dw i wedi rhoi cwpwl o awgrymiadau iddyn nhw – un Carolyn yn defnyddio ‘ychwanegwch’ ac un Matthew ‘beth yw 50 wedi’i gynyddu 10%’.

 

Fe feddyliais i am ‘gan’ – mi fyddai’n datrys y broblem ond mae’n dal i swnio’n chwithig i mi a dw i ddim yn rhy siwr pa mor ramadegol gywir yw  ei ddefnyddio yn y cyd-destun hwn.

 

Diolch bawb am eich awgrymiadau – fe roddaf wybod beth fydd penderfyniad y golygydd maes o law (os caf i wybod!).

 

Rhian

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Osian Rhys
Sent: 09 January 2013 13:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ATB: Increase

 

Ie dw i'n cytuno gyda Carolyn mai "cynyddwch 50 10%" fyddai gywiraf (yn fy mhen i beth bynnag). Dw i'n gweld hefyd nad yw hynny mor eglur ag y gallai fod, ar bapur beth bynnag, ond yn sicr dw i'n meddwl y byddai rhoi "o" rhyngddynt yn gwneud pethau'n waeth ac nid yn well; fel mae Matthew yn ddweud, mae angen osgoi creu'r amwysedd yna yn fwy cyffredinol.

 

Credu bod awgrymiadau gwell wedi bod yn barod ond yr unig awgrymiadau eraill alla i feddwl amdanyn nhw fyddai "Adiwch 10% at 50", neu hyd yn oed "Rhowch 10% arall ar ben 50"? Cydymdeimlo Rhian, popeth yn swnio'n chwithig fel dwedest ti!

 

Osian

 

 

 

Ar 9 Ionawr 2013 12:22, Carolyn <[log in to unmask]> ysgrifennodd:

Mae'n anodd - heb yr 'o' mae'n anodd ei ddeall - e.e. cynyddwch 50 10% (er mai dyna fyddwn i'n meddwl sy'n gywir).

Fyddai 'Ychwanegwch 10% at 50' yn golygu'r un peth? Ddim yn siŵr ydy hynny'n gliriach chwaith.

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws
Anfonwyd/Sent: 09 Ionawr 2013 12:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Increase

 

Diolch Megan.

 

Dim ond meddwl tybed oes angen yr ‘o’? A fyddai hynny’n drysu plant i feddwl mai ‘increase 50 from 10%’ yw’r ystyr? Neu ai fi sy’n bod yn dwp?!

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
Sent: 09 January 2013 12:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Increase

 

cynyddwch 50 o 10% faswn i'n ei ddweud yn naturiol.  Tybed be fase Gareth Roberts, Mae Pawb yn Cyfri, yn ei ddweud?  Mi hola i o.

 

Megan

 

From: Rhian Huws <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 9 January 2013, 12:02
Subject: Increase

 

P’nawn da

 

Cyfarwyddyd sydd gen i, a hynny i blant:

 

Increase 50 by 10%

 

Beth yw’r ffordd orau o ddweud hyn? Mae popeth yn swnio’n chwithig i mi!

 

Diolch ymlaen llaw

 

Rhian