Mae'n anodd - heb yr 'o' mae'n anodd ei ddeall - e.e. cynyddwch 50 10% (er mai dyna fyddwn i'n meddwl sy'n gywir).
Fyddai 'Ychwanegwch 10% at 50' yn golygu'r un peth? Ddim yn siŵr ydy hynny'n gliriach chwaith.
Carolyn
Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws
Anfonwyd/Sent: 09 Ionawr 2013 12:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Increase
Diolch Megan.
Dim ond meddwl tybed oes angen yr ‘o’? A fyddai hynny’n drysu plant i feddwl mai ‘increase 50 from 10%’ yw’r ystyr? Neu ai fi sy’n bod yn dwp?!
Rhian
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
Sent: 09 January 2013 12:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Increase
cynyddwch 50 o 10% faswn i'n ei ddweud yn naturiol. Tybed be fase Gareth Roberts, Mae Pawb yn Cyfri, yn ei ddweud? Mi hola i o.
Megan
From: Rhian Huws <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 9 January 2013, 12:02
Subject: Increase
P’nawn da
Cyfarwyddyd sydd gen i, a hynny i blant:
Increase 50 by 10%
Beth yw’r ffordd orau o ddweud hyn? Mae popeth yn swnio’n chwithig i mi!
Diolch ymlaen llaw
Rhian