Y trwbwl ydi, wrth siarad byddem yn deud "cynnydd o dair mil" am "an increase of 3000" ac "an increase from 3000", ond efo gwahanol bwyslais ar yr "o". Does dim modd dangos hynny mewn ysgrifen!
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Matthew Clubb [auc]
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Wednesday, January 09, 2013 12:30 PM
Subject: ATB: Increase

Ie, lletchwith. Rwy'n meddwl bod hynny'n beryg wrth ddefnyddio 'o' - mae'n gallu bod yn dryslyd neu'n amwys - rhywbeth mae angen ei osgoi mewn mathemateg.
 
Y peth gorau, rwy'n meddwl, fyddai ei aralleirio: rhywbeth fel "beth yw 50, wedi'i gynyddu 10%" neu "rhowch 50, wedi'i gynyddu 10%" ?
 
Mae 'cynnydd o' yn rhywbeth a welir ac a glywir yn aml iawn i olygu 'an increase of', ond mae'n hollol gamarweiniol
 
an increase of three thousand = tair mil o gynnydd
an increase from three thousand = cynnydd o dair mil (i ryw ffigur arall)
 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws
Anfonwyd/Sent: 09 Ionawr 2013 12:20
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Increase

Diolch Megan.

 

Dim ond meddwl tybed oes angen yr ‘o’? A fyddai hynny’n drysu plant i feddwl mai ‘increase 50 from 10%’ yw’r ystyr? Neu ai fi sy’n bod yn dwp?!

 

Rhian

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
Sent: 09 January 2013 12:12
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Increase

 

cynyddwch 50 o 10% faswn i'n ei ddweud yn naturiol.  Tybed be fase Gareth Roberts, Mae Pawb yn Cyfri, yn ei ddweud?  Mi hola i o.

 

Megan

 

From: Rhian Huws <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Wednesday, 9 January 2013, 12:02
Subject: Increase

 

P’nawn da

 

Cyfarwyddyd sydd gen i, a hynny i blant:

 

Increase 50 by 10%

 

Beth yw’r ffordd orau o ddweud hyn? Mae popeth yn swnio’n chwithig i mi!

 

Diolch ymlaen llaw

 

Rhian

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2637/5519 - Release Date: 01/08/13