Ie, lletchwith. Rwy'n meddwl bod hynny'n beryg wrth ddefnyddio 'o' - mae'n gallu bod yn dryslyd neu'n amwys - rhywbeth mae angen ei osgoi mewn mathemateg. Y peth gorau, rwy'n meddwl, fyddai ei aralleirio: rhywbeth fel "beth yw 50, wedi'i gynyddu 10%" neu "rhowch 50, wedi'i gynyddu 10%" ? Mae 'cynnydd o' yn rhywbeth a welir ac a glywir yn aml iawn i olygu 'an increase of', ond mae'n hollol gamarweiniol an increase of three thousand = tair mil o gynnydd an increase from three thousand = cynnydd o dair mil (i ryw ffigur arall) ________________________________ Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Rhian Huws Anfonwyd/Sent: 09 Ionawr 2013 12:20 At/To: [log in to unmask] Pwnc/Subject: Re: Increase Diolch Megan. Dim ond meddwl tybed oes angen yr 'o'? A fyddai hynny'n drysu plant i feddwl mai 'increase 50 from 10%' yw'r ystyr? Neu ai fi sy'n bod yn dwp?! Rhian From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos Sent: 09 January 2013 12:12 To: [log in to unmask] Subject: Re: Increase cynyddwch 50 o 10% faswn i'n ei ddweud yn naturiol. Tybed be fase Gareth Roberts, Mae Pawb yn Cyfri, yn ei ddweud? Mi hola i o. Megan From: Rhian Huws <[log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]>> To: [log in to unmask]<mailto:[log in to unmask]> Sent: Wednesday, 9 January 2013, 12:02 Subject: Increase P'nawn da Cyfarwyddyd sydd gen i, a hynny i blant: Increase 50 by 10% Beth yw'r ffordd orau o ddweud hyn? Mae popeth yn swnio'n chwithig i mi! Diolch ymlaen llaw Rhian