Print

Print


'Rwyf newydd siarad a Mel Williams, sydd hefyd wedi ysgrifennu llyfr am gadw
gwenyn, ac mae o'n cadarhau mai yn yr ystyr torfol y byddai fo'n defnyddio
"epil".  Beth bynnag, mae o wedi bod yn son am dermau megis "nythfa" a
"magwrfa" ac mae o'n awgrymu, ar gyfer "sealed brood", y term gorau fyddai
"deorfa wedi'i selio".
Ann

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 06 January 2013 19:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: brood (gwenyn)

'Rwy'n ychydig yn ansicr yma, gan mai gair torfol ydy epil fel arfer, a
"brood" o ran hynny (= off-spring, progeny, descendants), ac felly fuaswn i
ddim wedi disgwyl iddo gyfeirio at un wy ayb.unigol. 

Beth bynnag, yn llyfr J Evans Jones, "Rhamant y Gwenyn" ceir llun o "Ffr^am
o epil wedi'u selio ..." a so^n am "a thrwy hynny golli miloedd lawer o
epil" (lle byddwn wedi disgwyl "ffr^am epil wedi'i selio" a "llawer o'r
epil").  Felly mae fel petai JEJ hefyd yn defnyddio "epil " am unigolyn. Mae
Bruce yn mynnu mai JEJ sy'n anghywir, ond 'rwy'n dyfalu mae cyfieithu'n
llythrennol y mae o, yn hytrach na defnyddio term cynhenid. Ydy rhywun arall
yn gwybod rhagor am hyn?

Ann

 
-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Evans Jones
Sent: 06 January 2013 19:14
To: [log in to unmask]
Subject: brood (gwenyn)

Tybed a oes rhywun yn gyfarwydd â thermau cadw gwenyn? Dyma'r diffiniad o
'brood' yn nghyd-destun pryfed:

In entomology, the term brood is used to refer to the embryo or egg, the
larva and the pupa stages in the life of holometabolous insects. 

Cyfeirir at 'capped brood':

pupae whose cells have been sealed with a porous cover by mature bees to
isolate them during their nonfeeding pupal period; also called sealed brood.

Ydy 'epil' yn gyfieithiad addas?