Print

Print


Dyna'r drafferth gydag 'ebostiau/ebyst/negeseuon ebost' - yn anffodus fedr pobl ddim gweld y wen ar wyneb yr awdur ac o ganlyniad maent agored i ddehongliad. Fel y dywedais yn fy neges flaenorol, efallai nad bod yn sarhaus oedd eich bwriad ond yn sicr fy ymateb cyntaf ar ôl darllen eich neges yn sôn nam 'werin di-nam Geraint' ac ati oedd 'AW! Dyna belten/slap/glatsien' ddi-alw-amdani! Ac mi fyddai'r rhai sy'n fy adnabod i'n dda yn dweud wrthoch chi nad ydw i'n arbennig o groendenau.

Falle bod hyn yn wers i bob un ohonom sy'n cyfrannu at y cylch i fod yn fwy gofalus wrth ddrafftio negeseuon a rhoi ein hunain yn esgidiau'r darllenwyr bob tro.

 

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Neil Shadrach
Sent: 04 January 2013 11:56
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ebyst

Ymatebais i heb falais ond â gwen ar fy wyneb a gyda beth ro'n i'n ei weld fel tipyn bach o hiwmor a thynnu coes.

Mae'n amlwg bod ambell un wedi ei ddarlen yn wahanol, bod rhai yn fwy croendenau nag y byddai rhywun yn disgwyl o ystyried eu cyfraniadau eu hunain.

Ond mae llawer wedi deall yn iawn a byddwn i'n mentro bod yr ymatebion hyd yn hyn yn dweud mwy am eu hawduron na dim byd arall.

Tipyn o ddarllen difyr fan hyn - http://en.wikipedia.org/wiki/Email#Spelling - ar gyfer y Saesneg.
Yn arbennig y gwahaniaeth rhwng Saesneg yr Unol Daleithiau ( enw torfol ) a Saesneg Prydain ( ffurfiau llusosog )