Print

Print


Mae Rhys Owen newydd ddweud "ebostiau" mewn sgwrs gyda Caryl ar y radio. Swnio'n fwy naturiol nag "ebyst" I mi!
Sori!
Sian
Sent from my BlackBerry® wireless device

-----Original Message-----
From:         Gorwel Roberts <[log in to unmask]>
Sender:       Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date:         Fri, 4 Jan 2013 08:59:05 
To: <[log in to unmask]>
Reply-To:     Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
              <[log in to unmask]>
Subject: Be (g)ebyst?

Bore da,

Ar lafar wrth siarad mae ebyst yn gwneud synnwyr seinegol imi ond fedra' i ddim dychmygu dweud 'ebostiau'. 

Cwestiwn gwirion o bosib - Petaen ni'n dweud 'negeseuon ebost' a fyddai disgwyl i 'ebost' fod yn y lluosog i gytuno efo 'negeseuon'? ac os felly be fyddai'r lluosog?

Sori, heb ddeffro'n iawn

gorwel

-----Neges Wreiddiol/Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 04 January 2013 00:23
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ebyst

Fel jôc? Cyfryngis?  Hyll ac anghyson?  Waw, mae dadl y garfan wrth-ebyst yn troi'n hynod o ddilornus ac ymosodol.  Peidiwch â chymryd y peth mor bersonol, dim ond gair ydio!!

Geraint

On 3 Ion 2013, at 21:55, Dafydd Tomos <[log in to unmask]> wrote:

> On Jan 03, 2013, Geraint Lovgreen wrote:
> 
>> Yr hyn sydd gennym yma ydi carfan o bobl sydd eisiau gwahardd y term 
>> a charfan arall sy'n agored i'w dderbyn.
>> 
>> Os nad ydych chi eisiau ei ddefnyddio, peidiwch. Wnaiff neb eich 
>> collfarnu. Ond peidiwch chithau â chollfarnu'r rhai sy'n dewis ei 
>> ddefnyddio. Mae pethau llawer gwaeth i boeni amdanyn nhw!!!!
> 
> Mae'n dderbyniol ond ydi e'n safonol? Go brin.
> 
> Beth sy'n ddiddorol yw pa 'garfan' wnaeth gyflwyno'r gair.
> 
> Yn y 90au, fe wnaeth rhai pobl ddechrau defnyddio 'ebostiau' (sydd 
> ddim gwell neu gwaeth na ebyst). Fe welais i nifer o ddysgwyr yn bathu 
> hyn yn annibynnol am eu bod nhw, heb arweiniad, yn dilyn patrwm 
> naturiol o eiriau arall.
> 
> (Yn bersonol o'n i ddim yn gweld yr angen, ond fe wnaeth y gair hynny 
> gael ei ddefnyddio gan y wasg, y BBC a rhai cyrff cyhoeddus).
> 
> Wedyn tua 2002/3 fe fathwyd 'ebyst' fel joc ac yna cafodd ei hyrwyddo 
> gan grwp bychan o gyfryngis cymraeg. Unwaith mae gair yn y cyfryngau, 
> mae pobl yn dueddol o ddilyn fel defaid. Beth sy'n ddiddorol yw fod 
> e-byst yn cael ei groesawu fel rhyw fathiad anhygoel o glyfar er ei 
> fod yn air hyll ac anghyson.
> 
> Mae'n amlwg fod rhai carfannau sy'n bathu geiriau yn bwysicach na'r 
> gweddill, yn enwedig os oes ganddyn nhw lwyfan cyhoeddus i ledu gair.
> 
> Gweler hefyd 'popty ping' (joc cyfryngol arall).


--
Ymwadiad: 

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun. 

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon. 
  
Disclaimer: 

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice. 
 
The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it. 
 
Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.