Print

Print


Tydan ni ddim yn dweud ‘mae gen ti byst’ ond pwy a wyr na fyddwn ni’n dweud hynny cyn bo hir?

 

Pwy feddyliai y byddai rhoi arddodiad ar ddiwedd cymal yn mynd yn beth mor gyffredin? A hynny gan bobl ddysgedig sy’n gweld dim byd o’i le ar hynny, wir, a’i fod o’n beth tafodieithol?

 

gorwel

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 03 January 2013 14:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ebyst

 

Onid newid semantegol sydd yma - mae post wedi newid ei ystyr sawl gwaith ers y cychwyn cynta ynghlwm a thrafnidiaeth a chludo. A siawns na fasen ni ddim yn mynnu mai'r ystyr gwreiddiol oedd iddo o hyd? Mae post erbyn hyn yn golygu'r neges unigol yn ogystal a'r dull neu'r pecyn cyfan o negeseuon. Siawns nad oes gofyn i ni symud efo'r oes, ac weithia mae'n fuddiol cael enw neu enw lluosog.

Anna

2013/1/3 Eluned Mai <[log in to unmask]>

Efallai mai'r Saeson sy wedi'n drysu ni trwy roi ffurf luosog ar 'mail'.  Onid yw'r 'mail' yn cyfeirio at yr holl negeseuon?  Ac mae 'post' hefyd, os 'gohebiaeth' ydy'r ystyr, yn medru bod yn lluosog ynddo'i hun.  "Mae gen ti bost." fasen ni'n ddeud petai un llythyr neu fwy nag un llythyr wedi cyrraedd.  Fasen ni ddim yn dweud "Mae gen ti byst."

Mi allwn ni ddefnyddio 'neges e-bost' - neu efallai, er mwyn drysu pethau ymhellach, y dylen ni ddefnyddio 'neges bost-e' gan mai dyna'r drefn yn y Gymraeg!

Mae 'na hwyl i'w gael efo geira!
Eluned

 

2013/1/3 Huw Tegid <[log in to unmask]>

Dwi’n siŵr i mi weld ‘e-lyth’ yn nyddiau cynnar gohebu drwy’r cyfrwng hwn.  Ddaru hwnnw’n bendant ddim gafael, ond mae’r gair ‘llythyr’ yn ddiddorol – ydi mwy nag un o’r rhain yn ‘llythyrau’ ynteu’n ‘llythyron’ i chi? 

 

Efallai y bydd yn rhaid i ni dderbyn fod ’na wahaniaeth barn ar ffurf lluosog ‘e-bost’, yn yr un modd â pheth mor gyfarwydd â ‘llythyr’.

 

Cofion gorau,

 

Huw

 

(O.N. dwi’n dal i roi’r cysylltnod yn e-bost, ond yn cydnabod fy mod i’n colli’r ddadl honno.  Fiw i mi gynnig rhywbeth arall i godi gwrychyn pobl!!)

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 03 January 2013 13:12


To: [log in to unmask]
Subject: Re: ebyst

 

‘Rwy’n siwr bod hyn wedi’i drafod o’r blaen ond ni allaf ddod o hyd iddo.

 

Neges a ddaeth trwy’r post electronig yw e-bost, felly mae’n biti na ddefnyddiwyd rhywbeth fel e-neges(euon)  ar y cychwyn, ond ddaw o byth yn boblogaidd rwan.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 03 January 2013 12:59
To: [log in to unmask]
Subject: Re: ebyst

 

Deud da eto.

Anna

2013/1/3 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Cytuno - diolch Matthew! 

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]">Matthew Clubb [auc]

Sent: Thursday, January 03, 2013 12:16 PM

Subject: ATB: ebyst

 

Ond yw hi'n newid braf cael gair newydd yn y Gymraeg nad oes angen rhoi'r terfyniad '-(i)au' na '-s' i ffurfio'r lluosog?

 

Hyfryd iawn, yr hen ffordd Gymreig o lunio'r lluosog drwy effeithiad: (o>y) ffon > ffyn, ffordd > ffyrdd, Cymro > Cymry, ac ebost > ebyst (yn cyd-fynd yn union â phatrwm yr hen ffurf luosog ar 'esgob' > esgyb!).

 

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 03 Ionawr 2013 11:40
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: ebyst

Ond pe bai gan "post", yn yr ystyr "mail", luosog - go brin mai "pyst" fyddai hwnnw.

 

Rwy'n gyndyn o'i ddefnyddio mewn dogfen ffurfiol.

 

Gyda llaw, mae'r darn hwn yn dod o ddogfen a gyfieithais i a'i dychwelyd cyn y Nadolig.

Bu'r cwsmer yn gweithio arni dros y gwyliau a sylwi bod dau baragraff i'w hychwanegu.

Yn hytrach na'm styrbio i dros y gwyliau, fe roddodd nhw trwy Google Translate a nawr mae wedi gofyn i mi edrych drostynt (chware teg iddo!).

Maen nhw'n syndod o gywir - dw i ddim yn siwr ydi hyn yn beth da 'ta'n beth drwg!

 

Siân

 

On 2013 Ion 3, at 10:22 AM, anna gruffydd wrote:

 

Dyna on inna di'i feddwl hefyd, mwy ne lai - joc wedi ennill ei blwy, nid yn gymaint oherwydd anwybodaeth ond oherwydd hoffter at y gair - mae'n fachog, a chanddo gynsail barchus - e.e. post, pyst. Fasa'n dda gen i iddo fod yn dderbyniol mewn unrhyw gyd-destun.

Anna

2013/1/3 Sian Roberts <[log in to unmask]>

Wir?
Ro'n i'n meddwl ei fod wedi cychwyn fel jôc ond bod rhai pobl wedi dechrau ei gymryd o ddifri mewn anwybodaeth.
Dal i swnio'n ddigri i mi!

Siân




On 2013 Ion 3, at 10:05 AM, Saunders, Tim wrote:

> Roedd e'n ddigon dderbyniol ddeng mlynedd yn ôl - dim rheswm i feddwl fod hyn wedi newid.
>
> Yn iach,
>
> T
>
> -----Original Message-----
> From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts
> Sent: 03 January 2013 10:03
> To: [log in to unmask]
> Subject: ebyst
>
> Helo
>
> Ydi "ebyst" yn dderbyniol bellach?
> Rwy'n darllen proflenni sy'n dweud "Byddwn yn anfon ebyst".  Mae'n dal i 'nharo i'n rhyfedd ond mae'n digwydd yng ngeiriadur arlein y BBC ac yn y Porth Termau (Termau Cyfathrebu) ac mae iddo'r fantais o fod yn fyr!
>
> Diolch
>
> Siân
> This transmission is intended for the named addressee(s) only and may contain sensitive or protectively marked material up to RESTRICTED and should be handled accordingly. Unless you are the named addressee (or authorised to receive it for the addressee) you may not copy or use it, or disclose it to anyone else. If you have received this transmission in error please notify the sender immediately. All traffic including GCSx may be subject to recording and/or monitoring in accordance with relevant legislation
>
> For the full disclaimer please access http://www.rctcbc.gov.uk/disclaimer
>
>
>
> Mae'r neges ar gyfer y person(au) a enwyd yn unig a gall gynnwys deunydd sensitif neu ddeunydd sy wedi'i farcio hyd at 'CYFYNGEDIG' a dylid ei thrin yn unol a hynny. Os nad chi yw'r person a enwyd (neu os nad oes gyda chi'r awdurdod i'w derbyn ar ran y person a enwyd) chewch chi ddim ei chopio neu'i defnyddio, neu'i datgelu i berson arall. Os ydych wedi derbyn y neges ar gam a wnewch roi gwybod i'r sawl sy wedi anfon y neges ar unwaith. Mae modd cofnodi a/neu fonitro holl negeseuon GCSX yn unol a'r ddeddfwriaeth berthnasol.
> I weld yr ymwadiad llawn ewch i http://www.rctcbc.gov.uk/ymwadiad

 

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2637/5505 - Release Date: 01/02/13

 


No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com

Version: 2013.0.2805 / Virus Database: 2637/6002 - Release Date: 01/01/13

 

 


--

Ymwadiad:

Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun.

Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni.

O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon.

Disclaimer:

While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice.

The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it.

Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.