Anaml y clywch chi neb yn deud Port Dinorwic erbyn hyn - "single to Felinheli" glywch chi ar fws - byddai'r fannod yn taro'n od iawn yn y cyd-destun. Erbyn meddwl byddai'n od yn Gymraeg hefyd dweud "dwi'n mynd i Y Felinheli". Mynd i'r Felinheli siwr iawn.* Dydi'r Y ddim yn rhan annatod o'r enw. Byddai "I'm going to'r Felinheli" yn well na "I'm going to Y Felinheli" ella! ;-) Geraint * (er mai "mynd i Felin" a "byw yn Felin" ydi'r ffurf glywir ar lafar yn naturiol) ----- Original Message ----- From: "Geraint Jones" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, January 30, 2013 3:30 PM Subject: Re: Y Felinheli - Saesneg > Awgrymws Geraint Lovgreen: >> Yn naturiol, "to Felinheli" fyddai rhywun yn ei ddweud mae'n siwr. > > Dwn i ddim: nid Port Dinorwic fyddai debycaf ar lafar yn Saesneg, dal > i fod? (Peth peryg yw drysu rhwng arfer a rheol.) > > O ran cywreinrwydd mi edrychais yn llawlyfr Saesneg(*) Cyngor Cymuned > y Felinheli (neu "Cyngor Cymuned Y Felinheli Community Council" fel > mae'n mynnu) ac yn fanno mae engreifftiau fel "If the County > Councillor for Y Felinheli is not a..." gyda'r fannod yn Gymraeg. > > _____ > *) http://www.felinheli.org/downloads/pdfs/hand_book_eng.pdf > > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2639/5567 - Release Date: 01/29/13 >