Gorwel, A ydy hi'n bosib bod yr ymadrodd yn cyfeirio at geffyl a oedd wedi nogio yn dod at ei goed ac yn caniatáu i'r aradrwr ei gysylltu i'r aradr? Dw i wedi ymchwilio ymhellach ar sut mae'r gair "tree" yn cael ei defnyddio yn yr English Dialect Dictionary i weld a oes yna defnydd cyffelyb yn y Gymraeg. Gwelais fod "trees" yn cael ei ddefnyddio am y polyn a bar a ddefnyddir i gysylltu ceffyl gwaith neu geffyl gwedd i'r aradr neu'r og gyda chadwyni a strapiau lledr etc. TRIB-TREE: The bar which by its centre is attached to the plough, whilst at its ends are attached the swingle-trees. Mae "one-tree" a "double-tree" i'w cael hefyd. Yn y Gymraeg mae gennym "cambren" a "tinbren" cambren mawr: double-tree of draught harness cambren rhannu: double-tree cambren ymryson: double-tree of draught harness (lit. double tree of contention) tinbren: swingletree Mae "cambren ymryson" yn ddiddorol, a oes yna gyfeiriad yma at geffylau yn nogio (dim eisiau cydweithredu i gael eu strapio i'r polyn a phrennau) A allwn ni ddweud am geffyl oedd o'r diwedd yn barod i weithio ac yn barod i'w strapio i'r prennau a'r polyn at yr aradr ei fod - wedi dod at ei strapiau wedi dod at ei bolyn wedi dod at ei goed (sef y prennau cambren, tinbren) Dewi Date: Tue, 18 Dec 2012 13:34:32 +0000 From: [log in to unmask] Subject: ATB/RE: ATB/RE: ATB/RE: coed To: [log in to unmask] Difyr iawn, iawn From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Eurwyn Pierce Jones Sent: 18 December 2012 13:30 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: coed Diau bod perthynas rhwng yr ymadrodd dan sylw ag ymadroddion eraill tebyg, fel y rhai canlynol, er enghraifft: 'Hysbys y dengys y dyn o pa radd y bo ei wreiddyn.' (A man will soon show the quality of his roots.) - Dihareb 'Cyffion bonedd haelioni / A saint teg sy ynot ti' - Cywydd o eiddo Iolo Goch 'Yna y daw allan wialen o gyff Eseia' - o'r Beibl (Eseia11:1) 'Wele hwy yn bwrw canghennau wrth eu ffroenau' - o'r Beibl (Esecel 8:17) - y bobl yn bradychu eu tras drwy eu mynegiant o'u dirmyg haerllyg wrth herio awdurdod Duw. 'A beth yw teyrnas Mamon, ond cainc o'm llywodraeth fawr i.' - o'r Bardd Cwsg (Ellis Wynne) 'Un coed i'r nen, cadarn oedd / un pren nod, pur iawn ydoedd' - marwnad Tomas Salbri Hen. 'Myfi yw y winwydden; chwithau yw y canghennau.' - o'r Beibl (Ioan 15: 5) 'Efe a fydd fel pren wedi ei blannu ... yr hwn a rydd ei frwyth yn ei bryd, a'i ddalen ni wywa, ...' - o'r Beibl (Salm 1:3) Wrth eu ffrwythau yr adnabyddwch hwy ...' - o'r Beibl (Matthew 7:20) Nid anarferol felly, yn yr hen ysgrifau, yw disgrifio unigolion dynol neilltuol (a hefyd y natur ddynol, cymdeithas a chenedl) yn drosiadol fel: prennau, coed, canghennau, gwreiddiau, coedwig, ffrwythau, cyff, ... ac ati. Eurwyn From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dewi Williams Sent: 18 December 2012 12:21 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: coed Ann mae "at ei bolyn" i'w weld o dan dygaf yn GPC. a hefyd o wglo cewch yr ymadrodd yn ei gyd-destun yn Y Drysorfa, 1865: yn cynnwys amrywiaeth o bethau ar amcan crefyddol, etc - Page 270 Does gen i ddim gopi i weld beth yw'r cyd-destun llawn. Mae "dod at ei strapiau" i'w gael yng Ngeiriadur yr Academi o dan y gair "amend" Gwelwch isod. Hefyd mae sylwadau Sian yn ddiddorol am yr ymadrodd Saesneg come back to his trees a'r syniad o aderyn yn dod yn ôl i'w nyth. Meddyliais wedyn efallai fod yna gyfeiriad at aderyn sglyfaethus yma Mae adar sy'n cael eu defnyddio i heboca yn gwisgo strapiau ac yn gallu dod yn ôl i'w coed neu bolyn. Ydy hyn o unrhyw help Gorwel? Dewi Date: Tue, 18 Dec 2012 12:05:30 +0000 From: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: coed To: [log in to unmask] Nid wyf yn gyfarwydd a’r ddau arall - o ble maen nhw’n dod? Ann From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dewi Williams Sent: 18 December 2012 12:01 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: ATB/RE: coed Dw i ddim yn sicr am y tarddiad, ond o gymharu dod at ei goed dod at ei strapiau dod at ei bolyn, a oes rhywbeth yn gyffredin iddyn nhw i gyd? Ai canlyniad ryw weithred ddrwg yw'r "polyn" neu "strapiau" hynny yw, cosb Gofyn cwestiwn arall ydw i gan obeithio sbarduno syniadau eraill. Dewi Date: Tue, 18 Dec 2012 11:37:49 +0000 From: [log in to unmask] Subject: ATB/RE: ATB/RE: coed To: [log in to unmask] Diolch, ond sut mae wedi mynd i olygu’r hyn y mae’n ei feddwl? From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Dewi Williams Sent: 18 December 2012 11:36 To: [log in to unmask] Subject: Re: ATB/RE: coed Helo Gorwel, Wedi dod o hyd i'r cyfeiriadau canlynol- GPC deuaf, dof, d. at ei goed: to come to one's right sences, come to see realize one's fault or folly (lit. to come to one's trees or wood). Ar lafar. dygaf d. (dyn) at ei goed: to bring one to one's sences, cause one to understand the position (lit. to bring a person to his wood). Ar lafar. Geiriadur yr Academi amend v.t.&i. 1. v.t. (a) gwella, cywiro, diwygio, newid; (b) he has amended his ways, mae wedi dod at ei goed; mae wedi cael diwygiad; N: F: occ: mae wedi dod at ei strapiau. 2. v.i. gwella, diwygio, ymddiwygio, dod at eich coed, dod at eich strapiau. Hwyl, Dewi Date: Tue, 18 Dec 2012 11:05:20 +0000 From: [log in to unmask] Subject: ATB/RE: coed To: [log in to unmask] Ai trees yw’r coed? Ydi o’n dod o’r Beibl? From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran/On Behalf Of Sian Roberts Sent: 18 December 2012 11:05 To: [log in to unmask] Subject: Re: coed Hm! Dim sôn am y tarddiad yn Llyfr Idiomau R E Jones na GPC Sori Siân On 2012 Rhag 18, at 10:12 AM, Gorwel Roberts wrote: Oes rhywun yn gwybod beth yw tarddiad y dywediad “dod yn ôl at ei goed”? gorwel -- Ymwadiad: Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun. Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni. O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon. Disclaimer: While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice. The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it. Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed. -- Ymwadiad: Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun. Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni. O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon. Disclaimer: While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice. The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it. Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed. -- Ymwadiad: Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun. Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni. O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon. Disclaimer: While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice. The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it. Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed. -- Ymwadiad: Er y cymerir pob gofal posib i sicrhau cywirdeb unrhyw wybodaeth a chyngor a roddir yn yr ohebiaeth hon, ni dderbynnir atebolrwydd am unrhyw golledion a all godi o unrhyw gamgymeriadau sy'n gynwysedig ac fe'ch atgoffir o'r angen i chi ofyn am gyngor proffesiynol eich hun. Bwriedir y neges ebost hon, ac unrhyw atodiadau iddi, at sylw'r person(au) y'i danfonwyd atynt yn unig. Os nad chi yw'r derbynnydd y cyfeiriwyd y neges hon ato ef neu hi, neu'r person sydd gyfrifol am drosglwyddo'r neges hon iddo ef neu hi, mi ddylech hysbysu'r anfonwr ar eich union. Oni bai mai chi yw'r person neu gynrychiolydd y person y cyfeiriwyd y neges hon at ef neu hi nid ydych wedi eich awdurdodi i, ac ni ddylech chi, ddarllen, copio, dosbarthu, defnyddio na chadw'r neges hon nac unrhyw gyfran ohoni. O dan y Ddeddf Amddiffyn Data 1998 a Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 gellir datgelu cynnwys y negest ebost hon. Disclaimer: While reasonable care is taken to ensure the correctness of any information and advice given in this correspondence no liability is accepted for losses arising from any errors contained in it and you are reminded of the need to obtain your own professional advice. The information in this email and any attachments is intended solely for the attention and use of the named addressee(s). If you are not the intended recipient, or person responsible for delivering this information to the intended recipient, please notify the sender immediately. Unless you are the intended recipient or his/her representative you are not authorised to, and must not, read, copy, distribute, use or retain this message or any part of it. Under the Data Protection Act 1998 and the Freedom of Information Act 2000 the contents of this email may be disclosed.