Dwi ddim yn gweld dim byd yn Feiblaidd / anodd ei ddeall yn y gair "newynog". Rhy gryf ydio gen ti? h.y. 'starving' yn hytrach na 'hungry'? Am bwy mae'r ffurflen yn sôn? Ydi 'newynog' yn ddisgrifiad anghywir o'u cyflwr? Geraint ----- Original Message ----- From: Sian Roberts To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, December 05, 2012 9:37 AM Subject: Re: hungry Diolch Claire Wrth Googlo nawr, rwy'n sylwi bod cwrs Cymraeg ar lein "Master any Language" yn gofyn "A ydych yn newynog?". Go brin! Rhywun yn gwybod rhywbeth am hwn? Cofion Siân On 2012 Rhag 5, at 9:27 AM, Claire Richards wrote: Mae Oxfam a Chymorth Cristnogol yn defnyddio ‘newynog’, ac mae’n digwydd ar wefan y Grid Cenedlaethol ar gyfer Dysgu. Tybed beth sy’n cael ei ddefnyddio yn yr ysgolion mewn gwersi ABCh/Dinasyddiaeth Fyd-eang? Claire -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 05 December 2012 09:22 To: [log in to unmask] Subject: hungry ".... bring justice to people who are hungry." ".... newynog / sy'n newynu" - rhy Feiblaidd / anodd i'w ddeall ym mhennawd ffurflen noddi ? ".... sy'n llwglyd" - cyfleu ystyr dros dro / dim pawb yn deall ? ".... y mae arnynt eisiau bwyd" - rhy ffurfiol / hir mewn pennawd ? ".... sydd eisiau bwyd" - rhy anffurfiol ? ".... sydd heb ddigon o fwyd" - posib? Rhywbeth arall? Hefyd "1 in 8 people go to bed hungry" Diolch Siân No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2634/5437 - Release Date: 12/04/12