Ann

Yn o^l y diffiniad yng Ngheredigon, rydych yn iawn mai ‘pinafore’ yw’r gair Saesneg cyfatebol am ‘ffedog’, a ‘brat’ yw ‘apron’.  Fel rheol gyda brat bydd rhyw fath o linyn yn mynd dros y pen ac un arall y tu o^l i’r cefn, ond gyda ffedog mae fel rheol yn mynd dros y breichiau ac yn clymu yn y tu blaen, bron fel cot heb lewys. Digon posib bod amrywiadau mewn ardaloedd eraill.

Clywais rywbryd fod y gair ‘brat’ a’r gair ‘brethyn’ yn tarddu o’r un bo^n. Oes gair tebyg yn yr Wyddeleg?

Mary

 

 

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 03 December 2012 23:43
To: [log in to unmask]
Subject: Ffedog ynteu Brat

 

‘Roedd plant mewn rhyw atgynhyrchiad o Nadolig Fictoraidd ddydd Sadwrn yn gwisgo dillad plant hen ffasiwn dros eu dillad eu hunain - y math o beth fyddai pob plenty wedi’i wisgo i gadw ei ddillad yn lan. O’r tu blaen, edrychai fel ffrog hir heb lewys, ond yn agored yn y cefn - rhyw fath o oferôl.  Ai ffedog ynteu brat ynteu rhyw enw arall yw’r dilledyn? Nid yw “brat” yn air y De, meddai Bruce, ond ‘does ganddo fawr o syniad be’ ‘dy’ be’ - ydy ffedog a brat yn enwau ar yr un dilledyn?.  Ar ol ychydig o ymchwil, ‘rwy’n meddwl mai “pinafore” ydyw, yn hytrach na dim ond “apron”!

 

Diolch!

 

Ann