Print

Print


Dwi'n dal ddim yn gweld bod hynny'n broblem. Ac yn y paragraff dan sylw, gwrywaidd ydio bob tro beth bynnag! (gwaith, Meseia, darn, Meseia, cyfansoddiad)
  ----- Original Message ----- 
  From: anna gruffydd 
  To: [log in to unmask] 
  Sent: Monday, December 03, 2012 9:41 AM
  Subject: Re: rhagflaenydd


  Antecedent. Dyma'r paragraff:-

  It turned out to be one of the most popular works that ever Handel wrote. Even to this day, there are always performances of it at Christmas and Easter. So it’s extraordinary to think that Handel composed Messiah in just 24 days. Not everyone was happy though! Charles Jennens, who had selected the words for the piece, took offence that Handel had written it so quickly, complaining, ‘His Messiah has disappointed me, being set in great haste, tho’ he said he would be a year about it, and make it the best of all his Compositions. I shall put no more Sacred Works into his hands, to be thus abus’d.’

  Weithia Messiah (benywaidd) ydi'r antecedent, weithia oratorio (ben. eto), weithia piece, weithia work (gwrywaidd). Ti'n gweld be dwi'n feddwl? Taswn i'n 'cytuno' bob tro mi fasa'r peth yn newid ei genedl bob chwinciad. Am wn i mai'r unig ateb ydi aralleirio er mwyn osgoi gorfod cytuno (osgoi arddodiaid sy'n galw am gytuno, e.e. yn lle performances of it hepgor yr 'of it' a jyst deud performances).

  Anna


  2012/12/3 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

    Dwi ddim yn dallt be di'r broblem. Be wyt ti'n ei feddwl efo "rhagflaenydd"?
      ----- Original Message ----- 
      From: anna gruffydd 
      To: [log in to unmask] 
      Sent: Monday, December 03, 2012 9:19 AM
      Subject: Re: rhagflaenydd


      Er gwybodaeth, dwi wedi llwyddo i'w miglo hi o'r sefyllfa tro ma, ond mi fasa'n ddiddorol clwad eich barn beth bynnag. Cofio trafod hyn dro'n ol efo Ann a Bruce, yng nghyd-destun llygod, cathod, ffuredau - os di'r creadur yn wrywaidd a minna'n son amdano/i o dan ei enw/henw priod, pa genedl dylwn i'i defnyddio?

      Anna


      2012/12/3 anna gruffydd <[log in to unmask]>

        Mae'r broblem yma'n codi o bryd i'w gilydd; y tro yma mae'n waeth nag arfer. Nodiadau rhaglen am Messiah. Mae'r rhagflaenydd yn newid cenedl mor aml - weithia 'oratorio', weithia 'gwaith' etc. Os dwi'n cytuno a'r rhagflaenydd bob tro, mae'r paragraff yn mynd i edrych yn fler ac yn anghyson ofnadwy, a tydi hi ddim bob amser yn bosib osgoi cytuno. Oes yna ateb syml, ynteu gwell aralleirio fel dwn i ddim be, er mwyn osgoi'r sefyllfa? Diolch, ddoethion.




        Anna




      No virus found in this message.
      Checked by AVG - www.avg.com
      Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2634/5432 - Release Date: 12/02/12



  No virus found in this message.
  Checked by AVG - www.avg.com
  Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2634/5432 - Release Date: 12/02/12