Print

Print

Diddorol - Elenid ddylai o fod felly?
 
Gweler http://tredelyn.blogspot.co.uk/2010_07_01_archive.html
 
a hwn - http://parselcanol.blogspot.co.uk/2010/07/gair-yr-wythnos-elenydd.html
----- Original Message -----
From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">David Bullock
To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]
Sent: Monday, December 03, 2012 12:31 PM
Subject: Re: Cambrian Mountains, Elenydd

Mae gan Syr Ifor nodyn ar Elenit.

"Cyfeiria L. at syniad G. mai Maelienydd a feddylir; cynnig ynta Mefenydd, ond nid oes angen newid y testun. Elenit yw mynydd-dir Pumlumon..... Dengys L.G. Cothi, 184, lle'r odlir Elenid ag osodid, anelid, veiid, mai -id, nid -ydd yw'r sillaf olaf....

Hynny yw, ar ddiwedd Elenydd, nid yr un -ydd yw e ag sy yn Senghennydd, Meirionnydd, Eifionydd.

Cwmni DB Cyf.

Rhif y Cwmni: 04990174

Rhif TAW: 987 2849 49

Swyddfa Gofrestredig: 62 Waterloo Road, Pen-y-lan, Caerdydd CF23 9BH

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 03 Rhagfyr 2012 12:08
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cambrian Mountains, Elenydd

Newydd weld hwn yn Wicipedia -

Ceir cyfeiriadau at Elenydd (yn y ffurf Cymraeg Canol Elenid / Elenyd) mewn sawl llawysgrif gan ddechrau ar ddiwedd y 12fed ganrif, gan gynnwys chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogion a gwaith Gerallt Gymro

Oes gan rywun gopi o chwedl Math fab Mathonwy'n handi?  ;-)

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">Dafydd

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Monday, December 03, 2012 11:52 AM

Subject: Re: Cambrian Mountains, Elenydd

... ond 'da ni'n deud 'Y Carneddau' ... ' Y Glyderau' ...

On 03/12/2012 11:47, Geraint Lovgreen wrote:

Y broblem ydi - Eryri ydan ni'n ddeud, nid "Yr Eryri".

"Yr Elenydd" yn swnio'n od i fi.

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">megan tomos

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]">[log in to unmask]

Sent: Monday, December 03, 2012 11:42 AM

Subject: Re: Cambrian Mountains, Elenydd

Terfyniad lluosog fel yn "eryri" felly be di'r broblem?

From: Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Monday, 3 December 2012, 10:01
Subject: Re: Cambrian Mountains, Elenydd

Y trafferth ydi fy mod i'n ei 'glywed' fel enw tebyg i 'Meirionnydd, Eifionydd' - sef yr enw "Elain" a'r terfyniad "-ydd" ac felly mae "Yr Elenydd" yn swnio'n chwithig imi, gan ei fod yn awgrymu mai terfyniad lluosog sydd yna.

(Yr Elenydd sydd gan Wicipedia hefyd, gyda llaw, heblaw am y pennawd)

----- Original Message -----

From: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>David Bullock

To: [log in to unmask] href="mailto:[log in to unmask]" target=_blank>[log in to unmask]

Sent: Monday, December 03, 2012 9:54 AM

Subject: Re: Cambrian Mountains, Elenydd

"Elenydd, Yr" sydd yn y Gwyddoniadur.

(Efallai mod i'n hen-ffasiwn, ond mae'n well gen i drystio'r Gwyddoniadur, sydd ag enwa'r golygyddion a'r cyfranwyr arno na'r Wicipedia ddienw.)

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 03 Rhagfyr 2012 09:38
To: [log in to unmask]
Subject: Cambrian Mountains, Elenydd

Newydd ddarganfod yn Wicipedia bod modd cyfieithu rhan helaeth o'r Cambrian Mountains fel Elenydd yn hytrach na'r Mynyddoedd Cambriaidd neu ba bynnag enw termllyd arall a ddefnyddiais gynt.

Y cwestiwn sydd gen i ydi - ai Elenydd ydi enw'r ucheldir yma, ynteu Yr Elenydd?? Mae sawl enghraifft o'r ddwy ffurf ar y we.

Diolch,

Geraint

No virus found in this message.
Checked by AVG - http://www.avg.com/
Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2634/5433 - Release Date: 12/02/12

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com