Print

Print


On 06/12/2012 14:04, Sian Roberts wrote:
[log in to unmask]" type="cite">Ond beth sy'n bod â "Man gollwng yn unig"?
Mae'n cyfateb i'r Saesneg - Mae'r gyrrwr yn gollwng ei deithwyr.
Dyna beth fyddai rhywun yn ei ddweud - "Wnei di 'ngollwng i fan hyn plis?'
Nid tafodiaith yw hynny, dwi'm yn meddwl.

Siân


On 2012 Rhag 6, at 1:58 PM, Ann Corkett wrote:

Erbyn meddwl ‘rwy’n cytuno na wnaiff “man disgyn” y tro, ond nid am y rhesymau sydd gennych chi i gyd.  Wedi’r cyfan, ystyr safonol “disgyn” yw “dismount”  a ‘dych chi ddim yn disgwyl tafodiaith mewn arwyddion ffyrdd.
 
OND mae’r “only”  yn “drop-off point only” yn gwneud gwahaniaeth - nid lle i’r gyrrwr ddod allan o’r car mo hwn (fel mewn “Cyclists dismount here”), ond lle caiff adael teithwyr/nwyddau ond ni chaiff barcio. Er hynny, mae Bruce yn awgrymu “Disgynfa’n unig”.
 
Ann

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf OfCATRIN ALUN
Sent: 06 December 2012 12:55
To: [log in to unmask]
Subject: Re: drop off point
 
Dyna fasa fi i mi hefyd!
 

From: Rhian Huws <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask] 
Sent: Thursday, 6 December 2012, 12:48
Subject: Re: drop off point


O ble dwi'n dod, mae 'disgyn' yn golygu 'syrthio/cwympo'!


-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 06 December 2012 12:27
To: [log in to unmask]
Subject: Re: drop off point

Onid man disgyn sy'n arferol? 

Ann



-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Rhian Huws
Sent: 05 December 2012 13:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: drop off point

Siwr iawn! Be sy'n bod arnai?!
Diolch eich dau!

-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 05 December 2012 12:50
To: [log in to unmask]
Subject: Re: drop off point

man gollwng feddyliais i yn syth.

Falle nad oes angen "teithwyr/pobl".

Geraint

----- Original Message -----
From: "Howard Huws" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, December 05, 2012 12:09 PM
Subject: Re: drop off point


"Man gollwng teithwyr / pobl yn unig"?


-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2634/5437 - Release Date: 12/04/12


Man Aros Brys?