Deud da Sian. Ond mae na elfen o'r ystyr cynta yn y cyd-destun defaid yndoes? (ond nid yng nghyd-destun mwyar duon!).

Anna

2012/11/28 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Ie - Rhyfedd bod gan "hel" ddau ystyr cyferbyniol - "gyrru, erlid, ymlid, peri ffoi" a "crynhoi, casglu, pigo, ymgynnull"!
Fyswn i'n meddwl y byddai rhywun o'r de yn fwy tebygol o feddwl am yr ystyr cyntaf.

Ond - mae'n well defnyddio gair sydd ar waith go iawn mewn un ardal - helaeth yn yr achos hwn - na cheisio creu rhywbeth i blesio pawb ond nad yw'n cael ei ddefnyddio gan neb.

Siân


On 2012 Tach 28, at 9:22 AM, anna gruffydd wrote:

Dwi'n cael 'casglu' yn chwithig - swnio fel rwbath ma rhywun yn ei neud efo stampia, rhywbeth manwl, gofalus (dwi ddim yn deud bod gatherio defaid yn rhywbeth bler, cofiwch). Ai gwahaniaeth de-gogledd ydi'r gwrthwynebiad i 'hel'?

Anna

2012/11/28 Catrin Beard <[log in to unmask]>

Dwi'n cofio deud adnod yn capel ddegawdau yn ol:

 

Mi a gasglaf fy nefaid o'r holl wledydd lle y gyrrais hwynt, a mi a'u dygaf drachef i'w corlannau lle yr amlhant ac yr ychwanegant.

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of megan tomos
Sent: 28 November 2012 09:11


To: [log in to unmask]
Subject: Re: gathering sheep

 

Y bugeiliaid ydi'r arbenigwyr a hel y bydden nhw'n ei ddweud.  Helfa neu ur hel hefyd a ddefnyddir wrth gyfeirio at ddiwrnod yr hel ar y cyd ar adegau penodol o'r flwyddyn.

 

Megan

 

From: Gareth Evans Jones <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Tuesday, 27 November 2012, 18:20
Subject: gathering sheep


Hel defaid fuaswn i'n ei ddweud yn naturiol, ond a fuasai hynny'n rhy dafodieithol ar gyfer dogfen swyddogol? Allai ddim meddwl beth ydy'r term swyddogol. Unrhyw awgrym, ogydd?