Deud da Sian. Ond mae na elfen o'r ystyr cynta yn y cyd-destun defaid yndoes? (ond nid yng nghyd-destun mwyar duon!). Anna 2012/11/28 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Ie - Rhyfedd bod gan "hel" ddau ystyr cyferbyniol - "gyrru, erlid, ymlid, > peri ffoi" a "crynhoi, casglu, pigo, ymgynnull"! > Fyswn i'n meddwl y byddai rhywun o'r de yn fwy tebygol o feddwl am yr > ystyr cyntaf. > > Ond - mae'n well defnyddio gair sydd ar waith go iawn mewn un ardal - > helaeth yn yr achos hwn - na cheisio creu rhywbeth i blesio pawb ond nad > yw'n cael ei ddefnyddio gan neb. > > Siān > > > On 2012 Tach 28, at 9:22 AM, anna gruffydd wrote: > > Dwi'n cael 'casglu' yn chwithig - swnio fel rwbath ma rhywun yn ei neud > efo stampia, rhywbeth manwl, gofalus (dwi ddim yn deud bod gatherio defaid > yn rhywbeth bler, cofiwch). Ai gwahaniaeth de-gogledd ydi'r gwrthwynebiad i > 'hel'? > > Anna > > 2012/11/28 Catrin Beard <[log in to unmask]> > >> Dwi'n cofio deud adnod yn capel ddegawdau yn ol:**** >> >> ** ** >> >> Mi a gasglaf fy nefaid o'r holl wledydd lle y gyrrais hwynt, a mi a'u >> dygaf drachef i'w corlannau lle yr amlhant ac yr ychwanegant.**** >> >> ** ** >> >> *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and >> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *megan >> tomos >> *Sent:* 28 November 2012 09:11 >> >> *To:* [log in to unmask] >> *Subject:* Re: gathering sheep**** >> >> ** ** >> >> Y bugeiliaid ydi'r arbenigwyr a hel y bydden nhw'n ei ddweud. Helfa neu >> ur hel hefyd a ddefnyddir wrth gyfeirio at ddiwrnod yr hel ar y cyd ar >> adegau penodol o'r flwyddyn.**** >> >> **** >> >> Megan**** >> >> ** ** >> >> *From:* Gareth Evans Jones <[log in to unmask]> >> *To:* [log in to unmask] >> *Sent:* Tuesday, 27 November 2012, 18:20 >> *Subject:* gathering sheep**** >> >> >> Hel defaid fuaswn i'n ei ddweud yn naturiol, ond a fuasai hynny'n rhy >> dafodieithol ar gyfer dogfen swyddogol? Allai ddim meddwl beth ydy'r term >> swyddogol. Unrhyw awgrym, ogydd? >> >> **** >> > > >