‘Rwy’n amau nad oes,
ond mae ganddynt wefan os dymunwch holi. Wrth son am “miscarriage” o gwbl
, rhaid troedio’n ofalus ac ystyried y cyd-destun ac ar gyfer pwy ‘dych chi’n
ysgrifennu. “erthyliad” yw’r gair naturiol ar gyfer “miscarriage” AC
“abortion”. Rhaid dweud “erthyliad *naturiol*” neu – efallai’n well byth wrth
feddwl am yr ymateb emosiynol – edrych ar y dewisiadau eraill megis
“camesgoriad” (term technegol?) a “colli plentyn” (yn fwy agos atoch?). Rhwng
TermCymru a’r gwahanol eirfaoedd iechyd (gan gynnwys Geiriadur Bydwragedd
Bailliere – erthyliad naturiol), mae’r tri therm ar
gael.
Maddeuwch imi os ydw’n
dysgu’r ddafad i bori (neu’n dysgu’r ddafad i boeri, fel yr oedd yr oedd un
dysgwr yn ei ddweud).
Ann
From: Discussion of Welsh
language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Gareth Jones
Sent: 25 October 2012 18:38
To:
[log in to unmask]
Subject: The Miscarriage
Association
A oes gan y
gymdeithas uchod enw Cymraeg, os gwelwch yn
dda?