Mae'n edrych yn well efo dwy n rhywsut! Pob lwc!

Sent from my iPad

On 24 Hyd 2012, at 09:40, Emily Hammett <[log in to unmask]> wrote:

Diolch Ann. Anni fach amdani te (os na newidia'i fy meddwl cyn mis Ebrill!) :oD


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 23 October 2012 20:37
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cais personol: Anni/Ani

Dyna gyd-ddigwyddiad.  Des ar draws rywbeth gan Llinos Beverley Smith heno yn son am Ieuan Dyfi, bardd o’r “Oesoedd Canol diweddar” a ganodd bum cywydd i “Anni Goch”!  ('Olrhain Anni Goch', Ysgrifau Beirniadol 19) - felly mae’r enw’n reit hen.

 

Ann


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Emily Hammett
Sent: 23 October 2012 16:21
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cais personol: Anni/Ani

 

Ffiw! Ateb cynhwysfawr! Diolch i chi, Ann (ac i Heini wrth gwrs!).

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 23 October 2012 16:15
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cais personol: Anni/Ani

 

 

‘Rwyf newydd anfon yr ymholiad at Heini Gruffudd a yma ei ymateb:

 

O diar, pwy yn y byd wyr am hyn!

Mae'r rheol am lafariad yn hir neu'n fyr yn dylanwadu ar 'n' neu 'r' yn ddigon cyfarwydd.

Mae 'w' gytsain wrth gwrs yn peri nad oes dyblu.

 

Sut mae dyn yn ynganu'r enw : âni  neu anni?

 

Ond gall tarddiad yr 'a' hefyd ddylanwadu, beth bynnag fo'r ynganiad' (e.e. darllenodd).

 

Beth wnawn ni felly?

 

Dw i ddim yn gweld bod gen i dalfyriad am 'Anwen' yn Enwau Cymraeg i Blant.

Mae 'Anni' yno, mae'n debyg fel sillafiad Cymraeg o 'Annie'.

A gall hynny fynd â ni at 'Hanna' neu 'Anna', a dw i ddim yn cofio gweld 'Hana' neu 'Ana', er y gall fod enghreifftiau.

 

Ydy hyn o ryw help?  Byddwn i'n dueddol o gadw at ddyblu'r 'n' yn gyffredinol, ond os yw hi am dalfyrru 'Anwen' yn 'Ani', pam lai? Mae lle i fympwy a thorri rheol mewn iaith, yn enwedig gydag enwau.

 

Hwyl a chofion!

Heini

 

Ann

 


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 23 October 2012 15:26
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Cais personol: Anni/Ani

 

Ddim o gwbl! - llongyfarchiada gyda llaw! Dwi ddim yn arbenigwr ar enwa na sillafu. Faswn i'n meddwl, yn achos enwa, anything goes! Ond mi all rhywun arall roi ateb callach a mwy dysgedig na fi. Cofion, Anna

2012/10/23 Emily Hammett <[log in to unmask]>

Helo

Sori i'ch trafferthu chi gyda chais personol!

Dw i'n disgwyl babi ac yn hoff iawn o'r enw Anwen ac r'on i'n meddwl byrhau hynny i Ani. Yn llyfr Heini Gruffudd, 'Enwau Cymraeg i Blant', mae 'Anni' wedi'i gynnwys ond dyw 'Ani' ddim. Ga i ofyn (sori - blynyddau o gyfieithu a alla i ddim gweithio hyn mas!): ydy'r sillafiad 'Ani' yn 'anghywir'? Fyddai defnyddio 'n' unigol yn torri ryw reol neu'i gilydd??