Mae'n edrych yn well efo dwy n rhywsut! Pob lwc! Sent from my iPad On 24 Hyd 2012, at 09:40, Emily Hammett <[log in to unmask]> wrote: > Diolch Ann. Anni fach amdani te (os na newidia'i fy meddwl cyn mis Ebrill!) :oD > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett > Sent: 23 October 2012 20:37 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Cais personol: Anni/Ani > > Dyna gyd-ddigwyddiad. Des ar draws rywbeth gan Llinos Beverley Smith heno yn son am Ieuan Dyfi, bardd o’r “Oesoedd Canol diweddar” a ganodd bum cywydd i “Anni Goch”! ('Olrhain Anni Goch', Ysgrifau Beirniadol 19) - felly mae’r enw’n reit hen. > > > > Ann > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Emily Hammett > Sent: 23 October 2012 16:21 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Cais personol: Anni/Ani > > > > Ffiw! Ateb cynhwysfawr! Diolch i chi, Ann (ac i Heini wrth gwrs!). > > > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett > Sent: 23 October 2012 16:15 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Cais personol: Anni/Ani > > > > > > ‘Rwyf newydd anfon yr ymholiad at Heini Gruffudd a yma ei ymateb: > > > > O diar, pwy yn y byd wyr am hyn! > > Mae'r rheol am lafariad yn hir neu'n fyr yn dylanwadu ar 'n' neu 'r' yn ddigon cyfarwydd. > > Mae 'w' gytsain wrth gwrs yn peri nad oes dyblu. > > > > Sut mae dyn yn ynganu'r enw : âni neu anni? > > > > Ond gall tarddiad yr 'a' hefyd ddylanwadu, beth bynnag fo'r ynganiad' (e.e. darllenodd). > > > > Beth wnawn ni felly? > > > > Dw i ddim yn gweld bod gen i dalfyriad am 'Anwen' yn Enwau Cymraeg i Blant. > > Mae 'Anni' yno, mae'n debyg fel sillafiad Cymraeg o 'Annie'. > > A gall hynny fynd â ni at 'Hanna' neu 'Anna', a dw i ddim yn cofio gweld 'Hana' neu 'Ana', er y gall fod enghreifftiau. > > > > Ydy hyn o ryw help? Byddwn i'n dueddol o gadw at ddyblu'r 'n' yn gyffredinol, ond os yw hi am dalfyrru 'Anwen' yn 'Ani', pam lai? Mae lle i fympwy a thorri rheol mewn iaith, yn enwedig gydag enwau. > > > > Hwyl a chofion! > > Heini > > > > Ann > > > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd > Sent: 23 October 2012 15:26 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Cais personol: Anni/Ani > > > > Ddim o gwbl! - llongyfarchiada gyda llaw! Dwi ddim yn arbenigwr ar enwa na sillafu. Faswn i'n meddwl, yn achos enwa, anything goes! Ond mi all rhywun arall roi ateb callach a mwy dysgedig na fi. Cofion, Anna > > 2012/10/23 Emily Hammett <[log in to unmask]> > > Helo > > Sori i'ch trafferthu chi gyda chais personol! > > Dw i'n disgwyl babi ac yn hoff iawn o'r enw Anwen ac r'on i'n meddwl byrhau hynny i Ani. Yn llyfr Heini Gruffudd, 'Enwau Cymraeg i Blant', mae 'Anni' wedi'i gynnwys ond dyw 'Ani' ddim. Ga i ofyn (sori - blynyddau o gyfieithu a alla i ddim gweithio hyn mas!): ydy'r sillafiad 'Ani' yn 'anghywir'? Fyddai defnyddio 'n' unigol yn torri ryw reol neu'i gilydd?? > >