Dyna
gyd-ddigwyddiad. Des ar draws rywbeth gan Llinos Beverley Smith heno yn
son am Ieuan Dyfi, bardd o’r “Oesoedd Canol diweddar” a ganodd bum cywydd i
“Anni Goch”! ('Olrhain Anni Goch', Ysgrifau Beirniadol 19) - felly mae’r
enw’n reit hen.
Ann
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Emily Hammett
Sent: 23 October 2012 16:21
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Cais personol:
Anni/Ani
Ffiw! Ateb cynhwysfawr!
Diolch i chi, Ann (ac i Heini wrth gwrs!).
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Ann Corkett
Sent: 23 October 2012 16:15
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Cais personol:
Anni/Ani
‘Rwyf newydd anfon yr
ymholiad at Heini Gruffudd a yma ei ymateb:
O diar, pwy yn y byd wyr am
hyn!
Mae'r rheol am lafariad yn
hir neu'n fyr yn dylanwadu ar 'n' neu 'r' yn ddigon
cyfarwydd.
Mae 'w' gytsain wrth gwrs yn
peri nad oes dyblu.
Sut mae dyn yn ynganu'r enw
: âni neu anni?
Ond gall tarddiad yr 'a'
hefyd ddylanwadu, beth bynnag fo'r ynganiad' (e.e.
darllenodd).
Beth wnawn ni
felly?
Dw i ddim yn gweld bod gen i
dalfyriad am 'Anwen' yn Enwau Cymraeg i Blant.
Mae 'Anni' yno, mae'n debyg
fel sillafiad Cymraeg o 'Annie'.
A gall hynny fynd â ni at
'Hanna' neu 'Anna', a dw i ddim yn cofio gweld 'Hana' neu 'Ana', er y gall fod
enghreifftiau.
Ydy hyn o ryw help?
Byddwn i'n dueddol o gadw at ddyblu'r 'n' yn gyffredinol, ond os yw hi am
dalfyrru 'Anwen' yn 'Ani', pam lai? Mae lle i fympwy a thorri rheol mewn iaith,
yn enwedig gydag enwau.
Hwyl a
chofion!
Heini
Ann
From: Discussion of Welsh language
technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of anna gruffydd
Sent: 23 October 2012 15:26
To:
[log in to unmask]
Subject: Re: Cais personol:
Anni/Ani
Ddim o gwbl! - llongyfarchiada gyda llaw!
Dwi ddim yn arbenigwr ar enwa na sillafu. Faswn i'n meddwl, yn achos enwa,
anything goes! Ond mi all rhywun arall roi ateb callach a mwy dysgedig na fi.
Cofion, Anna
2012/10/23 Emily Hammett <[log in to unmask]>
Helo
Sori i'ch trafferthu chi gyda chais
personol!
Dw i'n disgwyl babi ac yn hoff iawn o'r enw Anwen ac r'on i'n
meddwl byrhau hynny i Ani. Yn llyfr Heini Gruffudd, 'Enwau Cymraeg i Blant', mae
'Anni' wedi'i gynnwys ond dyw 'Ani' ddim. Ga i ofyn (sori - blynyddau o
gyfieithu a alla i ddim gweithio hyn mas!): ydy'r sillafiad 'Ani' yn 'anghywir'?
Fyddai defnyddio 'n' unigol yn torri ryw reol neu'i
gilydd??