Print

Print


Wedi cael ateb o'r diwedd. Mae'n debyg mai cyd-ddigwyddiad ffodus (yn
Saesneg) yw'r ffaith bod cysylltiad rhwng frisky a risky yn y cyd-destun
hwn.

Fy ngwestiwn gwreiddiol dwi'n credu oedd ydi hi'n dderbyniol defnyddio'r
gair 'ffrisgi'? Dyma mae'r cwsmer ei eisiau mewn gwirionedd! Mae'r gair
'horni' wedi ennill ei blwyf bellach, felly pam ddim 'ffrisgi'? Fe fyddai'n
datrys y broblem wedyn. Ac mae'n debyg mai ymgyrch wedi'i anelu at bobl
ifanc yn bennaf fydd hon.

Rhian



-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Dafydd Timothy
Sent: 18 October 2012 13:05
To: [log in to unmask]
Subject: Re: [Bulk] Re: frisky

On 18/10/2012 11:35, Ann Corkett wrote:
> ‘Dw i didm yn gweld bod modd gwneud llawer nes bod Rhian wedi 
> darganfod y cefndir.  Biti bod pobl yn gwario ar ymgyrchoedd fel hyn, 
> heb weld angen cynnwys y cyfieithydd yn y broses.
>
> Mae’n mynd i fod yn reit anodd cael gair/geiriau sy’n cyfuno’r syniad 
> o frisky a risky – rhywbeth yn ymwneud a “mentrus”???  Gyda llaw, oedd 
> pawb wedi sylweddoli bod modd chwilio Cysgair gan ddefnyddio, e.e.
> *ntrus, *ionc, mentr*, nwy*, *wyfus i chwilio am gyfuniadau posibl – 
> e.e. mae’r canlyniad “nwyddus, pruddglwyfus, gwahanglwyfus” yn codi’r 
> posibilrwydd – nwyfus > clwyfus.
>
> Ann
>
> ----------------------------------------------------------------------
> --
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of 
> *Carolyn
> *Sent:* 18 October 2012 10:53
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* ATB: [Bulk] Re: frisky
>
> Os ydi Anna'n iawn, mae'n bosib y byddan nhw'n defnyddio 
> ffontiau/priflythrennau er mwyn dangos y gair 'Risky'. Neu efallai mai 
> ymgyrch sy'n mynd i ddatblygu yw hon ac y byddan nhw'n symud ymlaen o 
> o 'Frisky' i 'Risky'?
>
> Carolyn
>
> ----------------------------------------------------------------------
> --
>
> *Oddi wrth/From:*Discussion of Welsh language technical terminology 
> and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran 
> *Ann Corkett
> *Anfonwyd/Sent:* 18 Hydref 2012 10:50
> *At/To:* [log in to unmask]
> *Pwnc/Subject:* Re: [Bulk] Re: frisky
>
> Mae “sionc” yn gynnig arall gan Bruce, ond os ydy Anna’n iawn, bydd yn 
> rhaid cychwyn o’r cychwyn eto, gan y bydd dod o hyd i “clyfrair” addas 
> arall yn bwysicach na chyfieithu “frisky”.
>
> Ann
>
> ----------------------------------------------------------------------
> --
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of 
> *Rhian Huws
> *Sent:* 17 October 2012 07:03
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* Re: [Bulk] Re: frisky
>
> Nes i ddim meddwl am y chwarae ar eiriau, ond mae’n ddigon posibl. Fe 
> af yn ôl i holi.
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of 
> *anna gruffydd
> *Sent:* 16 October 2012 20:41
> *To:* [log in to unmask]
> *Subject:* [Bulk] Re: frisky
>
> Jyst o ran myrrath, be di'r rhesymeg yn tu ol i 'Frisky' yn y 
> cyd-destun yma??? Ai clyfrair sy'n cynnwys 'risky' ydi o? Mae 'frisky' 
> i mi yn awgrymu'r rheswm ma isio cael prawf HIV ac yn f'annog i neud 
> hynny yn hytrach nag yn f'annog i gael prawf.
>
> Anna
>
> 2012/10/16 Rhian Huws <[log in to unmask] 
> <mailto:[log in to unmask]>>
>
> Ymgyrch o’r enw ‘Frisky Wales’ i annog pobl i gael profion HIV.
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>] *On Behalf Of *Ann 
> Corkett
> *Sent:* 16 October 2012 19:33
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Subject:* Re: frisky
>
> Beth am y cyd-destun?
>
> Ann
>
> ----------------------------------------------------------------------
> --
>
> *From:*Discussion of Welsh language technical terminology and 
> vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of 
> *Rhian Huws
> *Sent:* 16 October 2012 18:25
> *To:* [log in to unmask]
> <mailto:[log in to unmask]>
> *Subject:* frisky
>
> Noswaith dda.
>
> Tybed all rywun helpu. Yng nghyd-destun rhyw, ydi’r gair ‘ffrisgi’ yn 
> cael ei ddefnyddio o gwbl? Dw i wedi Gwglo ond heb lwyddiant. Mae’r 
> cynigion yn y geiriadur yn fwy sidęt, a does ‘na ru’n yn cyfleu union 
> naws y Saesneg rhywsut.
>
> Unrhyw syniadau?
>
> Diolch ymlaen llaw
>
> Rhian
>
Faswn i'n deud, gan mai teitl ymgyrch ydi o, iddo fod yn well cadw'n agos at
y gwreiddiol Saesneg bachog, yn enwedig o gofio'r ychydig gefndir a gafwyd
amdano
  Beth am

  Ffrisgi Cymru

gan ein bod yn defnyddio'r gair 'risg' yn Gymraeg ac yn y cyd-destun, mae'n
bosib fod y Saesneg, mae'n ddrwg gen i ddweud, yn awgrymu i mi: 
'f.risk wales'!
Maddeued ...