Print

Print


Ychwanegu posibilrwydd eto at y pair - newydd daro mhen i - y ferf 'frisk'. Os felly daw helpo Rhian druan! Os nad ydi'r elfenna 'risk' a/neu 'frisk' yn rhan o'r meddylfryd, byddwn i'n cael y gair frisky yn y cyd-destun yma'n ddi-chwaeth. Yr hen gred oedd mai drwy fod yn frisky a chael hen hwyl a hanner yn hel dynion/merched oedd cael HIV. Erbyn hyn gwyddom yn well fel y tystiai miloedd o bobol sydd wedi'i gael heb fawr o bleser. Gora po gynta y cawn wbod be di'r rhesymeg.

Anna

2012/10/18 Dafydd Timothy <[log in to unmask]>
On 18/10/2012 11:35, Ann Corkett wrote:
‘Dw i didm yn gweld bod modd gwneud llawer nes bod Rhian wedi darganfod
y cefndir.  Biti bod pobl yn gwario ar ymgyrchoedd fel hyn, heb weld
angen cynnwys y cyfieithydd yn y broses.

Mae’n mynd i fod yn reit anodd cael gair/geiriau sy’n cyfuno’r syniad o
frisky a risky – rhywbeth yn ymwneud a “mentrus”???  Gyda llaw, oedd
pawb wedi sylweddoli bod modd chwilio Cysgair gan ddefnyddio, e.e.
*ntrus, *ionc, mentr*, nwy*, *wyfus i chwilio am gyfuniadau posibl –
e.e. mae’r canlyniad “nwyddus, pruddglwyfus, gwahanglwyfus” yn codi’r
posibilrwydd – nwyfus > clwyfus.

Ann

------------------------------------------------------------------------

*From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] *On Behalf Of *Carolyn
*Sent:* 18 October 2012 10:53
*To:* [log in to unmask]AC.UK
*Subject:* ATB: [Bulk] Re: frisky


Os ydi Anna'n iawn, mae'n bosib y byddan nhw'n defnyddio
ffontiau/priflythrennau er mwyn dangos y gair 'Risky'. Neu efallai mai
ymgyrch sy'n mynd i ddatblygu yw hon ac y byddan nhw'n symud ymlaen o o
'Frisky' i 'Risky'?

Carolyn

------------------------------------------------------------------------

*Oddi wrth/From:*Discussion of Welsh language technical terminology and
vocabulary [mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] *Ar ran *Ann Corkett
*Anfonwyd/Sent:* 18 Hydref 2012 10:50
*At/To:* [log in to unmask]AC.UK
*Pwnc/Subject:* Re: [Bulk] Re: frisky


Mae “sionc” yn gynnig arall gan Bruce, ond os ydy Anna’n iawn, bydd yn
rhaid cychwyn o’r cychwyn eto, gan y bydd dod o hyd i “clyfrair” addas
arall yn bwysicach na chyfieithu “frisky”.

Ann

------------------------------------------------------------------------

*From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] *On Behalf Of *Rhian Huws
*Sent:* 17 October 2012 07:03
*To:* [log in to unmask]AC.UK
*Subject:* Re: [Bulk] Re: frisky


Nes i ddim meddwl am y chwarae ar eiriau, ond mae’n ddigon posibl. Fe af
yn ôl i holi.

*From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] *On Behalf Of *anna gruffydd
*Sent:* 16 October 2012 20:41
*To:* [log in to unmask]AC.UK
*Subject:* [Bulk] Re: frisky


Jyst o ran myrrath, be di'r rhesymeg yn tu ol i 'Frisky' yn y cyd-destun
yma??? Ai clyfrair sy'n cynnwys 'risky' ydi o? Mae 'frisky' i mi yn
awgrymu'r rheswm ma isio cael prawf HIV ac yn f'annog i neud hynny yn
hytrach nag yn f'annog i gael prawf.

Anna

2012/10/16 Rhian Huws <[log in to unmask]
<mailto:[log in to unmask]com>>


Ymgyrch o’r enw ‘Frisky Wales’ i annog pobl i gael profion HIV.

*From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK
<mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK>] *On Behalf Of *Ann Corkett
*Sent:* 16 October 2012 19:33
*To:* [log in to unmask]AC.UK
<mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK>
*Subject:* Re: frisky


Beth am y cyd-destun?

Ann

------------------------------------------------------------------------

*From:*Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary
[mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK] *On Behalf Of *Rhian Huws
*Sent:* 16 October 2012 18:25
*To:* [log in to unmask]AC.UK
<mailto:WELSH-TERMAU-CYMRAEG@JISCMAIL.AC.UK>
*Subject:* frisky


Noswaith dda.

Tybed all rywun helpu. Yng nghyd-destun rhyw, ydi’r gair ‘ffrisgi’ yn
cael ei ddefnyddio o gwbl? Dw i wedi Gwglo ond heb lwyddiant. Mae’r
cynigion yn y geiriadur yn fwy sidęt, a does ‘na ru’n yn cyfleu union
naws y Saesneg rhywsut.

Unrhyw syniadau?

Diolch ymlaen llaw

Rhian

Faswn i'n deud, gan mai teitl ymgyrch ydi o, iddo fod yn well cadw'n agos at y gwreiddiol Saesneg bachog, yn enwedig o gofio'r ychydig gefndir a gafwyd amdano
 Beth am

 Ffrisgi Cymru

gan ein bod yn defnyddio'r gair 'risg' yn Gymraeg ac yn y cyd-destun, mae'n bosib fod y Saesneg, mae'n ddrwg gen i ddweud, yn awgrymu i mi: 'f.risk wales'!
Maddeued ...