Dwi wrthi’n cyfieithu cyfrifon ac adroddiad blynyddol corff cyhoeddus, ac mae sawl cyfieiriad at ‘impairments’ yn y cyfrifon, er enghraifft, ‘including depreciation and impairments’, ‘less depreciation and impairments’ a ‘less depreciation: non-cash and impairment charges’.
 
Ar ol edrych ar enghreifftiau o gyfrifon blynyddol cyrff cyhoeddus eraill, dwi wedi dod ar draws ‘namau’, ‘amhariadau’, a dwi’n cofio gweld ‘lleihad’ yn rhyw adroddiad neu’i gilydd hefyd.
 
Beth yn union yw’r term cywir, os gwelwch yn dda?