Ie, ond fel amheuon yn cael eu cymryd ar gyfer gosod gwaith dynion ... ----- Original Message ----- From: Sian Roberts To: [log in to unmask] Sent: Wednesday, September 12, 2012 2:13 PM Subject: Re: smoked Dydi'r Saesneg ddim llawer cliriach. Rwy'n meddwl ei fod yn dweud bod 'na ddau eisteddiad ond fe ffoniais i a threfnu bwrdd erbyn 7 - felly fysen nhw wedi cael sbario mynd i'r holl drafferth o chwilio am raglen gyfieithu! Licio'r "amheuon"! Siân On 2012 Medi 12, at 1:10 PM, anna gruffydd wrote: be aflwydd mae'n feddwl? fedra i ddim gwneud na rhych na gwellt ohon fo - fedra i ddim hyd yn oed ddyfalu sut maen nhw wedi .... o, be di'r iws Anna 2012/9/12 Sian Roberts <[log in to unmask]> Tipyn o gywiro tanddaearol angen ei wneud yn y Black Boy hefyd os bydd eu bwydlenni rywbeth tebyg i'w gwefan: "Sylwer: Tafarn y Black Boy yn lle poblogaidd yn mwynhau bwyta cefnogaeth gref lleol. Fel amheuon yn cael eu cymryd ar gyfer gosod gwaith dynion 6 tan 6:30 neu 8.30 tan 9pm, mae'n bwysig i gyrraedd yn gynnar. Ar y gwasanaethau prysuraf gall aros yn angenrheidiol." Siân On 2012 Medi 12, at 11:49 AM, Geraint Lovgreen wrote: "...(sychais yr "en" o'r bwrdd du pan nad oedd neb yn edrych)." Da iawn, Ann! Cywiro tanddaearol! ;-) Geraint ----- Original Message ----- From: "Ann Corkett" <[log in to unmask]> To: <[log in to unmask]> Sent: Wednesday, September 12, 2012 11:17 AM Subject: Re: smoked Sylwais yng nghaffi Oriel Glyn y Weddw ddydd Sadwrn eu bod nhw'n cynnig "eog wedi'i fygu" a "ciabatta brie a llugaeronen" (sychais yr "en" o'r bwrdd du pan nad oedd neb yn edrych). Mae'n debyg y caiff pob pysgodyn a ddelir ei fygu, ond nid fel arfer mewn ty bach. Mae "trin cig a^ mwg" yn swnio'n iawn i mi - ac i Bruce hefyd (newydd basio drws y swyddfa). Ond mae'n dweud nad yw cochi'n anghywir ac mai "coch yr wden" oedd yr enw ar "dried meat, such as goat's meat, venison, beef" (dan "coch" yn GPC), ac mae'n debyg mai trwy ddefnyddio mwg y byddai rhywun yn sychu'r cig. Gyda llaw, sylwodd Bruce neithiwr ar siop yn cynnig "pysgod a sglodion" - mae'n siwr bod hyn yn gyffredin iawn iawn(yn arbennig ymhlith dysgwyr) wrth feddwl yn Saesneg a pheidio a gwahaniaethu rhwng yr unigol a'r lluosog. Ann http://www.britevents.com/whats-on/anglesey/porthaethwymenai-bridge/ffair-ly fraur-borth-menai-bridge-book-fair/453585/ -----Original Message----- From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Roberts Sent: 12 September 2012 10:25 To: [log in to unmask] Subject: Re: smoked Felly beth sy'n dderbyniol ar gyfer "to smoke" wrth sôn am gig yn gyffredinol? Dydi cig ddim yn cochi, nagdi? "raised area for smoking meat above the fireplace" "trin cig â mwg"? Gyda llaw, fe sylwais i neithiwr fod J G Williams yn defnyddio "mygu" yn Pigau'r Sêr - "Yr oedd sistem o ffosydd wedi ei thynnu o'r afon ar gyfer trapio pysgod, ac fe fyddent yn mygu a chyweirio'r pysgod yn y ty bach i'r bobl oedd yn byw yn y Plas Hen." Diolch Siân ----- No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2437/5263 - Release Date: 09/11/12 No virus found in this message. Checked by AVG - www.avg.com Version: 2012.0.2221 / Virus Database: 2437/5263 - Release Date: 09/11/12