Pobl tŷ ni'n licio'r gair e-mosodiad ond yn meddwl ei fod yn fwy addas ar gyfer rhywbeth fel "cyber attack" - ymgais i ledaenu feirysau etc.

e-sbysebu?
e-byrstio?

Siân




On 2012 Medi 8, at 7:35 PM, anna gruffydd wrote:

Ia, ond mae e-blast yn eitha ymosodol tydi debyg? Dio'm yn awgrymu dim byd maleisus, ddeudwn i, jyst rhywbeth - wel, fel blast

Anna

2012/9/8 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Ond ydi "e-mosodiad" yn awgrymu bwriad maleisus - spam neu feirws etc?
Sent from my BlackBerry® wireless device

From: Sian Jones <[log in to unmask]>
Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Date: Sat, 8 Sep 2012 17:32:30 +0000
ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]>
Subject: Re: Eblast

ha - mae 'e-mosodiad' yn wych!! Diolch Ann 

Sian


Date: Fri, 7 Sep 2012 22:49:55 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Eblast
To: [log in to unmask]


From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Jones
Sent: 07 September 2012 18:24
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Eblast

 

Yn gweithio dros y 'marketing people' yn anffodus! Maen nhw'n dweud eu bod eisiau cadw mewn cysylltiad â'u cwsmeriaid drwy'r 'eblast' yma. A'r hyn yw'r 'eblast' yw taflen 3 tudalen o luniau a darnau bach o newyddion/hysbysebion byrion llawn geiriau bachog. 

 

Mae'n debyg bod 'E-ffrwydrad' yn cyfleu'r peth yn gywir Sian - gwreichion bach lliwgar yn ffrwydro dros y we!! Diolch :)

 

Sian


Date: Fri, 7 Sep 2012 17:03:10 +0100
From: [log in to unmask]
Subject: Re: Eblast
To: [log in to unmask]

Beth yw’r cyd-destun tybed?  Ydych chi’n gweithio dros un o’r “marketing people” y sonnir amdanynt ynteu dros rywun sy’n defnyddio’r gair yn eironig?

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Jones
Sent: 07 September 2012 16:44
To: [log in to unmask]
Subject: Eblast

 

Oes rhywun wedi dod ar draws y term 'eblast', sef y weithred o anfon taflen wybodaeth liwgar gyda lluniau, ar yr ebost, at lu o gwsmeriaid ar yr un pryd - rhywbeth tebyg i 'mailshot' mae'n debyg. Falle mai'r daflen ei hun yw'r 'eblast' yn hytrach na'r weithred.

 
 

Dyma'r disgifiad gorau dw i wedi'i ganfod ohono ar 'urbandictionary.com':

 

A ridiculous non-word made up by marketing people who think the term "e-mail" is inadequate to describe the explosive excitement of their mass e-mails

 

Ha! Oes gan rywun awgrymiadau o.g.yn dda?


Sian