Pobl tŷ ni'n licio'r gair e-mosodiad ond yn meddwl ei fod yn fwy addas ar gyfer rhywbeth fel "cyber attack" - ymgais i ledaenu feirysau etc. e-sbysebu? e-byrstio? Siân On 2012 Medi 8, at 7:35 PM, anna gruffydd wrote: > Ia, ond mae e-blast yn eitha ymosodol tydi debyg? Dio'm yn awgrymu dim byd maleisus, ddeudwn i, jyst rhywbeth - wel, fel blast > > Anna > > 2012/9/8 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Ond ydi "e-mosodiad" yn awgrymu bwriad maleisus - spam neu feirws etc? > Sent from my BlackBerry® wireless device > From: Sian Jones <[log in to unmask]> > Sender: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> > Date: Sat, 8 Sep 2012 17:32:30 +0000 > To: <[log in to unmask]> > ReplyTo: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary <[log in to unmask]> > Subject: Re: Eblast > > ha - mae 'e-mosodiad' yn wych!! Diolch Ann > > Sian > > Date: Fri, 7 Sep 2012 22:49:55 +0100 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Eblast > To: [log in to unmask] > > e-mosodiad? > > > Ann > > > > http://www.britevents.com/whats-on/anglesey/porthaethwymenai-bridge/ffair-lyfraur-borth-menai-bridge-book-fair/453585/ > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Jones > Sent: 07 September 2012 18:24 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Eblast > > > Yn gweithio dros y 'marketing people' yn anffodus! Maen nhw'n dweud eu bod eisiau cadw mewn cysylltiad â'u cwsmeriaid drwy'r 'eblast' yma. A'r hyn yw'r 'eblast' yw taflen 3 tudalen o luniau a darnau bach o newyddion/hysbysebion byrion llawn geiriau bachog. > > > Mae'n debyg bod 'E-ffrwydrad' yn cyfleu'r peth yn gywir Sian - gwreichion bach lliwgar yn ffrwydro dros y we!! Diolch :) > > > Sian > > Date: Fri, 7 Sep 2012 17:03:10 +0100 > From: [log in to unmask] > Subject: Re: Eblast > To: [log in to unmask] > > Beth yw’r cyd-destun tybed? Ydych chi’n gweithio dros un o’r “marketing people” y sonnir amdanynt ynteu dros rywun sy’n defnyddio’r gair yn eironig? > > > Ann > > http://www.britevents.com/whats-on/anglesey/porthaethwymenai-bridge/ffair-lyfraur-borth-menai-bridge-book-fair/453585/ > > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Sian Jones > Sent: 07 September 2012 16:44 > To: [log in to unmask] > Subject: Eblast > > > Oes rhywun wedi dod ar draws y term 'eblast', sef y weithred o anfon taflen wybodaeth liwgar gyda lluniau, ar yr ebost, at lu o gwsmeriaid ar yr un pryd - rhywbeth tebyg i 'mailshot' mae'n debyg. Falle mai'r daflen ei hun yw'r 'eblast' yn hytrach na'r weithred. > > > > Dyma'r disgifiad gorau dw i wedi'i ganfod ohono ar 'urbandictionary.com': > > > A ridiculous non-word made up by marketing people who think the term "e-mail" is inadequate to describe the explosive excitement of their mass e-mails > > > Ha! Oes gan rywun awgrymiadau o.g.yn dda? > > > Sian > > > > > >