Gan fod Andrew Hawke wedi cael eich sbamio chi cyn yr
Eisteddfod ynghylch Geiriadur y Brifysgol, ‘rwyf wedi gofyn caniata^d Delyth
i’ch atgoffa am Ffair Lyfrau Porthaethwy, dan nawdd Cymdeithas Bob Owen,
a gynhelir ar ddydd Sadwrn, 22 Medi?
Dyma’r manylion:
Cymdeithas Bob Owen (Y Casglwr)
FFAIR LYFRAU’R BORTH
Dydd Sadwrn, 22 Medi 2012; 10.00 am – 4.00 pm
Ysgol David Hughes, Ffordd Pentraeth, Porthaethwy, LL59 5SS
Mynediad: £1.00
Cysylltiad: Ann Corkett & Bruce Griffiths, 01248 371987,
[log in to unmask]
Hyd at 50 o fyrddau o lyfrau Cymraeg a Saesneg, hen a
newydd, nwyddau sain, cardiau post a mān greiriau. Gwyliwch rwymwr llyfrau wrth
ei waith. Digon o le parcio. ’Paned ar gael. Ar ddwy lefel - modd dod a
chadair olwyn trwy'r prif ddrws, ond rhaid mynd i ochr yr adeilad i gyrraedd y
brif neuadd.
Gwefan: www.casglwr.org
Hefyd, os ydych chi’n chwilio am lyfr arbennig, rhowch
wybod imi ac mi allaf gylchredeg y stondinwyr (ar unrhyw adeg) i weld a oes
copi gan ryw un/rai. Bu 34 o werthwyr yn y ffair llynedd (50 o fyrddau), ac mae
gen i gysylltiad a^ rhagor na hynny.
Ar ben hynny mae gennyf sawl copi o’r ddwy gyfrol
gyntaf o GPC, a sawl rhifyn unigol o’r cyfrolau eraill a all fod ar goll
o’ch casgliad, ar werth am brisiau rhesymol iawn (ac ‘rwyf yn hefyd
yn prynu rhifynnau unigol [yn rhad, mae arna i ofn] i gwblhau setiau). Mae gen
i lyfrau iaith ail law eraill ar werth hefyd.
Os cewch gyfle i drosglwyddo’r wybodaeth hon, byddwn
ni’n ddiolchgar iawn.
Llawer o ddiolch,
Ann
http://www.britevents.com/whats-on/anglesey/porthaethwymenai-bridge/ffair-lyfraur-borth-menai-bridge-book-fair/453585/