Print

Print


Gweld ti fory - swnio fel Rhydfeleneg i mi - ron i ar fws yng Nghaerdydd unwaith a chlywais dwr o blant yn siarad rhyw iaith ddieithr. Doedd hi ddim i'w chlywed i mi fel unrhyw iaith Ewropeaidd arall on i'n gyfarwydd a hi. Wedyn yn raddol dechreuodd rhywbeth ymystwyrio yn fy mhen i a dyma sylweddoli mai rhyw fath o Gymraeg roedden nhw'n ei siarad....

Anna

2012/9/3 Sian Roberts <[log in to unmask]>
Mae'n ymddangos bod y neges hon wedi bod yn agored ar y sgrin o dan lu o ddogfennau eraill ers rhai dyddiau.  Man a man ei hanfon hi nawr!  Dw i ddim yn siwr â beth roeddwn i'n cytuno!

Cytuno, Geraint.

Rwy'n hoff o'r amhersonol mewn brawddegau ond dw i ddim yn meddwl y byddai'n gweithio fel cyfarwyddyd ar ei ben ei hunan ar sgrin.

Pwynt arall - mae weithiau'n anodd gwybod ai berfenw 'ta'r gorchmynnol sydd yn y Saesneg. Cofio cyfieithu set o nodiadau rhyw dro.  Rhywbeth fel:

Things to do
1. Go to the sink
2. Turn the tap on
3. Wash your hands

Byddai naill ai'r gorchmynnol neu'r berfenw yn hollol dderbyniol fan hyn ond weithiau roedd rhywbeth yn codi oedd yn dangos mai gorchmynnol oedd y ferf a, dro arall, roedd yn amlwg mai'r berfenw oedd yna.  Doedd dim gwahaniaeth i'r Saesneg ond roedd yn achosi dryswch i mi!  Cyn gynted ag yr oeddwn i'n penderfynu ar y naill neu'r llall, roedd rhywbeth yn codi i ddrysu'r ddamcaniaeth!

Sôn am y berfenw - Oes rhywun arall wedi sylwi ar yr ymadrodd newydd (?) - "Gweld ti fory" - swnio'n od i mi ond nid i bobl eraill.

Hwyl

Siân

  
On 2012 Awst 30, at 3:16 PM, Geraint Lovgreen wrote:

Dwi'n tueddu i feddwl, er gwell neu waeth, os ydyn ni am i gymaint o bobl ag sy'n bosib ddefnyddio'r Gymraeg ar y cyfrifiadur, bod defnyddio ffurfiau berfol sy'n ddiarth i'r rhan fwyaf ohonynt yn mynd i filwriaethu yn erbyn hynny.
 
h.y. - mae "cadwed / cadwer" yn mynd i ddieithrio llawer iawn o bobl, yn wahanol i'r berfenw "cadw".
 
A dwi ddim yn meddwl mai "dymio i lawr" ydi hyn chwaith, dim ond pwynt ymarferol.
 
Geraint
----- Original Message -----
From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">Carolyn
To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]
Sent: Thursday, August 30, 2012 2:29 PM
Subject: ATB: Ti/chi wrth y cyfrifiadur

Mae hynny'n ddifyr Elin. Cymhlethdod arall sy'n codi'n aml wrth gyfieithu deunyddiau cyfrifiadurol yw'r diffyg cyd-destun. Dw i'n dal i weld pethau ar Office/Windows sy'n anghywir oherwydd nad oedd rhywun yn gwybod (nac yn gallu cael gwybod) ar y pryd ymhle yr oedd yr ymadrodd yn mynd i ymddangos na'i gyd-destun e.e. 'pages' - ac wedyn gweld bod hwn yn ymddangos ar ôl rhif.  Mae'r un peth yn wir am y dolenni at flychau deialog neu benawdau blychau deialog. Ar eu pen eu hunain, mae'n bosibl y byddai rhywun yn meddwl mai gorchymyn sydd yma e.e. "Edit menu" - (ond nid 'golygwch y ddeialog' ond cyfeiriad at y Ddewislen sy'n cynnig opsiynau ar gyfer golygu) ac ati. Mae'r enghraifft honno'n ddigon amlwg i rywun sy'n gyfarwydd â defnyddio cyfrifiadur ond mae 'na lu o enghreifftiau'n codi lle mae'r ystyr yn llai amlwg o lawer.

 

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Eleri James
Anfonwyd/Sent: 30 Awst 2012 14:13
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur

 

Wrth gyfieithu rhyngwyneb Wicipedia, rydym yn defnyddio'r patrwm canlynol:

 

Ar yr adegau prin pan mae'r cyfrifiadur yn rhoi gorchymyn i'r defnyddiwr: Gorchmynnol personol ffurfiol - 'Pwyswch', 'Cliciwch' ag ati.

Mewn cysylltiadau (dolenni) at flychau deialog: Berfenw - 'Dangos nodweddion', 'Golygu' ag ati.

Ar fotymau sy'n achosi i'r cyfrifiadur gwneud rhywbeth pendant (submit buttons): Gorchmynnol amhersonol - 'Cadwer', 'Dile"er' ag ati.

 

Mae'r ddau gyntaf yn dilyn Windows/Office ond dim ond ar Mediawiki (Wicipedia) yr wyf wedi gweld y trydydd. Fe gynigiodd cyfieithydd opsiwn arall imi yn lle'r gorchmynnol amhersonol, sef y gorchymyn 3ydd person 'Cadwed', 'Dile"ed'.  Nid yw'r moddau berfol hyn, sef y gorchymyn amhersonol na'r gorchymyn 3ydd person, ar gael yn Saesneg, a dyna pam y maent yn gorfod defnyddio'r gorchymyn syml yn Saesneg, sydd yn cael ei gawlio ag enw yn aml. Rwyn meddwl bod y gorchmynnol amhersonol (neu'r gorchymyn 3ydd person) yn addas iawn, gan ein bod yn pwyso botwm, ac yna mae rhywbeth yn digwydd, heb fod unrhyw berson cig a gwaed wedi gweithredu.  Os yw'r 'submit button' yn ymddangos fel cyswllt arferol, mae'n handi iawn bod modd y ferf yn ei gwneud yn hollol glir mai 'submit button' yw'r botwm.  Ond dwi ddim yn gwybod pa mor hir y gallwn ni ar Wicipedia barhau i ddilyn patrwm sydd yn ots i bawb arall.

 

Eleri James (Penrhyncoch)

 

 


From: David Bullock <[log in to unmask]>
To: [log in to unmask]
Sent: Thursday, 30 August 2012, 11:37
Subject: Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur

 

 

Mae'r disgrifiad o ddull cyfieithu Windows/Office yn ganllaw arbennig o dda yn fy marn i.

 

David

 

 

From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Carolyn
Sent: 30 Awst 2012 10:13
To: [log in to unmask]
Subject: ATB: Ti/chi wrth y cyfrifiadur

 

Mae pethau fel hyn yn gallu bod yn niwlog weithiau - ond dw i'n meddwl y gall defnyddio gorchymyn ar gyfer rhywbeth mae'r cyfrifiadur yn mynd i'w wneud beri dryswch yn y pen draw. Wrth gyfieithu Windows/Office, roedd y broblem yn codi'n aml a phenderfynwyd defnyddio'r gorchmynnol ar gyfer yr adegau pan fyddai'r cyfrifiadur yn dweud wrth y defnyddiwr am wneud rhywbeth e.e. Cliciwch yma a berfenw pan fyddai'r defnyddiwr yn penderfynu beth yr oedd am i'r cyfrifiadur ei wneud. Hynny yw, ateb i'r cwestiwn, '"Be dw i eisiau i'r cyfrifiadur ei wneud"  'Dangos y nodweddion imi'. Dw i'n gweld be sgen ti Siân, ond dw i'n meddwl ar y cyfan ei bod hi'n haws cadw at y patrwm arferol neu mewn ambell sefyllfa, bydd hi'n anodd gwybod ai gorchymyn i'r defnyddiwr yw'r ymadrodd neu beidio.

Carolyn

 


Oddi wrth/From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] Ar ran Sian Roberts
Anfonwyd/Sent: 30 Awst 2012 10:08
At/To: [log in to unmask]
Pwnc/Subject: Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur

 

Cytuno mai'r berf-enw sydd orau ond mae "Show me the features ..." etc yn swnio dipyn bach mwy fel gorchymyn 

 

Siân

 

On 2012 Awst 30, at 9:59 AM, anna gruffydd wrote:

 

Ia, dyna be on i'n trio'i ddeud - dwi'n meddwl! - ond dy fod di wedi'i fynegi'n well.

Anna

2012/8/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>

Yn hollol - cyfarwyddyd i bobl sydd ar y drws, felly "Tynnwch".

 

Efo cyfrifiadur - eisiau agor ffeil yden ni, felly "Agor". Does neb yn dweud wrthon ni am agor y ffeil, a dan ni ddim yn siarad efo neb, dim ond clicio ar be dan ni isio'i neud.

 

Geraint

----- Original Message -----

From: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">anna gruffydd

To: [log in to unmask]" href="mailto:[log in to unmask]" target="_blank">[log in to unmask]

Sent: Thursday, August 30, 2012 8:43 AM

Subject: Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur

 

Fedra i ddim cweit rhoi fy mys ar be dwi'n trio'i ddeud...ond ydi o ella, wrth roi gorchymyn i gyfrifiadur, ein bod ni'n mynegi dymuniad yn gymaint a rhoi gorchymyn uniongyrchol? Yn achos yr arwydd ar y drws, mae'n wahanol achos tydi'r drws ddim yn mynegi dymuniad i gael ei dynnu siawns? ond yn rhoi cyfarwyddyd uniongyrchol.

Anna

2012/8/30 David Bullock <[log in to unmask]>

Ond gweles i ddrws pa ddydd ac arwydd arno yn dweud Pull/Tynnu. Doedd hynny ddim yn gywir, nag oedd?




-----Original Message-----
From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen
Sent: 29 Awst 2012 18:58
To: [log in to unmask]
Subject: Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur

Berfenw a ddefnyddir fel arfer e.e. ar facebook - agor ffeil, dangos neges etc.

----- Original Message -----
From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]>
To: <[log in to unmask]>
Sent: Wednesday, August 29, 2012 6:22 PM
Subject: Ti/chi wrth y cyfrifiadur


Rwy'n gwybod bod amryw yn hoffi i'r cyfrifiadur eu galw nhw yn "chi" -

"Cliciwch yma" - am ei fod yn siarad   llawer o bobl eraill hefyd.


Ond beth ddylwn i alw'r cyfrifiadur?

"Show me features from ..."

Er bod gen i'r parch mwya at fy nghyfrifiadur, byddai "Dangoswch ...." yn
swnio'n rhyfedd iawn.
Yn yr achos hwn, mae "Dangos ..." yn taro'n o lew am ei fod yn ferfenw hefyd
ond beth os yw'r gorchmynnol unigol a'r ferfenw'n wahanol?

Trio meddwl pa fath o orchmynion fyddai rhywun yn rhoi i'r cyfrifiadur.

Rhywbeth   blwch ticio, mae'n siwr - rhywbeth fel:


"Count the sheep"

"Cyfrif y defaid" 'ta "Cyfrifa'r defaid"

Diolch

Si n



-----
No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5233 - Release Date: 08/29/12

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5233 - Release Date: 08/29/12

 

 

 

No virus found in this message.
Checked by AVG - www.avg.com
Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5234 - Release Date: 08/29/12