Gweld ti fory - swnio fel Rhydfeleneg i mi - ron i ar fws yng Nghaerdydd unwaith a chlywais dwr o blant yn siarad rhyw iaith ddieithr. Doedd hi ddim i'w chlywed i mi fel unrhyw iaith Ewropeaidd arall on i'n gyfarwydd a hi. Wedyn yn raddol dechreuodd rhywbeth ymystwyrio yn fy mhen i a dyma sylweddoli mai rhyw fath o Gymraeg roedden nhw'n ei siarad.... Anna 2012/9/3 Sian Roberts <[log in to unmask]> > Mae'n ymddangos bod y neges hon wedi bod yn agored ar y sgrin o dan lu o > ddogfennau eraill ers rhai dyddiau. Man a man ei hanfon hi nawr! Dw i > ddim yn siwr â beth roeddwn i'n cytuno! > > Cytuno, Geraint. > > Rwy'n hoff o'r amhersonol mewn brawddegau ond dw i ddim yn meddwl y > byddai'n gweithio fel cyfarwyddyd ar ei ben ei hunan ar sgrin. > > Pwynt arall - mae weithiau'n anodd gwybod ai berfenw 'ta'r gorchmynnol > sydd yn y Saesneg. Cofio cyfieithu set o nodiadau rhyw dro. Rhywbeth fel: > > Things to do > 1. Go to the sink > 2. Turn the tap on > 3. Wash your hands > > Byddai naill ai'r gorchmynnol neu'r berfenw yn hollol dderbyniol fan hyn > ond weithiau roedd rhywbeth yn codi oedd yn dangos mai gorchmynnol oedd y > ferf a, dro arall, roedd yn amlwg mai'r berfenw oedd yna. Doedd dim > gwahaniaeth i'r Saesneg ond roedd yn achosi dryswch i mi! Cyn gynted ag yr > oeddwn i'n penderfynu ar y naill neu'r llall, roedd rhywbeth yn codi i > ddrysu'r ddamcaniaeth! > > Sôn am y berfenw - Oes rhywun arall wedi sylwi ar yr ymadrodd newydd (?) - > "Gweld ti fory" - swnio'n od i mi ond nid i bobl eraill. > > Hwyl > > Siân > > > On 2012 Awst 30, at 3:16 PM, Geraint Lovgreen wrote: > > **** > Dwi'n tueddu i feddwl, er gwell neu waeth, os ydyn ni am i gymaint o bobl > ag sy'n bosib ddefnyddio'r Gymraeg ar y cyfrifiadur, bod defnyddio ffurfiau > berfol sy'n ddiarth i'r rhan fwyaf ohonynt yn mynd i filwriaethu yn erbyn > hynny. > > h.y. - mae "cadwed / cadwer" yn mynd i ddieithrio llawer iawn o bobl, yn > wahanol i'r berfenw "cadw". > > A dwi ddim yn meddwl mai "dymio i lawr" ydi hyn chwaith, dim ond pwynt > ymarferol. > > Geraint > > ----- Original Message ----- > *From:* Carolyn <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Thursday, August 30, 2012 2:29 PM > *Subject:* ATB: Ti/chi wrth y cyfrifiadur > > Mae hynny'n ddifyr Elin. Cymhlethdod arall sy'n codi'n aml wrth gyfieithu > deunyddiau cyfrifiadurol yw'r diffyg cyd-destun. Dw i'n dal i weld pethau > ar Office/Windows sy'n anghywir oherwydd nad oedd rhywun yn gwybod (nac yn > gallu cael gwybod) ar y pryd ymhle yr oedd yr ymadrodd yn mynd i ymddangos > na'i gyd-destun e.e. 'pages' - ac wedyn gweld bod hwn yn ymddangos ar ôl > rhif. Mae'r un peth yn wir am y dolenni at flychau deialog neu benawdau > blychau deialog. Ar eu pen eu hunain, mae'n bosibl y byddai rhywun yn > meddwl mai gorchymyn sydd yma e.e. "Edit menu" - (ond nid 'golygwch y > ddeialog' ond cyfeiriad at y Ddewislen sy'n cynnig opsiynau ar gyfer > golygu) ac ati. Mae'r enghraifft honno'n ddigon amlwg i rywun sy'n > gyfarwydd â defnyddio cyfrifiadur ond mae 'na lu o enghreifftiau'n codi lle > mae'r ystyr yn llai amlwg o lawer.**** > > ** ** > > Carolyn**** > > ** ** > ------------------------------ > > *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Eleri > James > *Anfonwyd/Sent:* 30 Awst 2012 14:13 > *At/To:* [log in to unmask] > *Pwnc/Subject:* Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur**** > > ** ** > > Wrth gyfieithu rhyngwyneb Wicipedia, rydym yn defnyddio'r patrwm canlynol: > **** > > ** ** > > Ar yr adegau prin pan mae'r cyfrifiadur yn rhoi gorchymyn i'r defnyddiwr: > Gorchmynnol personol ffurfiol - 'Pwyswch', 'Cliciwch' ag ati.**** > > Mewn cysylltiadau (dolenni) at flychau deialog: Berfenw - 'Dangos > nodweddion', 'Golygu' ag ati. **** > > Ar fotymau sy'n achosi i'r cyfrifiadur gwneud rhywbeth pendant (submit > buttons): Gorchmynnol amhersonol - 'Cadwer', 'Dile"er' ag ati.**** > > ** ** > > Mae'r ddau gyntaf yn dilyn Windows/Office ond dim ond ar Mediawiki > (Wicipedia) yr wyf wedi gweld y trydydd. Fe gynigiodd cyfieithydd opsiwn > arall imi yn lle'r gorchmynnol amhersonol, sef y gorchymyn 3ydd person > 'Cadwed', 'Dile"ed'. Nid yw'r moddau berfol hyn, sef y gorchymyn > amhersonol na'r gorchymyn 3ydd person, ar gael yn Saesneg, a dyna pam y > maent yn gorfod defnyddio'r gorchymyn syml yn Saesneg, sydd yn cael ei > gawlio ag enw yn aml. Rwyn meddwl bod y gorchmynnol amhersonol (neu'r > gorchymyn 3ydd person) yn addas iawn, gan ein bod yn pwyso botwm, ac yna > mae rhywbeth yn digwydd, heb fod unrhyw berson cig a gwaed wedi > gweithredu. Os yw'r 'submit button' yn ymddangos fel cyswllt arferol, > mae'n handi iawn bod modd y ferf yn ei gwneud yn hollol glir mai 'submit > button' yw'r botwm. Ond dwi ddim yn gwybod pa mor hir y gallwn ni ar > Wicipedia barhau i ddilyn patrwm sydd yn ots i bawb arall.**** > > ** ** > > Eleri James (Penrhyncoch)**** > > ** ** > > ** ** > ------------------------------ > > *From:* David Bullock <[log in to unmask]> > *To:* [log in to unmask] > *Sent:* Thursday, 30 August 2012, 11:37 > *Subject:* Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur**** > > ** ** > > *Diolch Anna, Geraint a Carolyn.***** > > **** > > Mae'r disgrifiad o ddull cyfieithu Windows/Office yn ganllaw arbennig o > dda yn fy marn i.**** > > **** > > David**** > > **** > > **** > > *From:* Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] *On Behalf Of *Carolyn > *Sent:* 30 Awst 2012 10:13 > *To:* [log in to unmask] > *Subject:* ATB: Ti/chi wrth y cyfrifiadur**** > > **** > > Mae pethau fel hyn yn gallu bod yn niwlog weithiau - ond dw i'n meddwl y > gall defnyddio gorchymyn ar gyfer rhywbeth mae'r cyfrifiadur yn mynd i'w > wneud beri dryswch yn y pen draw. Wrth gyfieithu Windows/Office, roedd y > broblem yn codi'n aml a phenderfynwyd defnyddio'r gorchmynnol ar gyfer yr > adegau pan fyddai'r cyfrifiadur yn dweud wrth y defnyddiwr am wneud > rhywbeth e.e. Cliciwch yma a berfenw pan fyddai'r defnyddiwr yn penderfynu > beth yr oedd am i'r cyfrifiadur ei wneud. Hynny yw, ateb i'r cwestiwn, '"Be > dw i eisiau i'r cyfrifiadur ei wneud" 'Dangos y nodweddion imi'. Dw i'n > gweld be sgen ti Siân, ond dw i'n meddwl ar y cyfan ei bod hi'n haws cadw > at y patrwm arferol neu mewn ambell sefyllfa, bydd hi'n anodd gwybod ai > gorchymyn i'r defnyddiwr yw'r ymadrodd neu beidio.**** > > Carolyn**** > > **** > ------------------------------ > > *Oddi wrth/From:* Discussion of Welsh language technical terminology and > vocabulary [mailto:[log in to unmask]] *Ar ran *Sian > Roberts > *Anfonwyd/Sent:* 30 Awst 2012 10:08 > *At/To:* [log in to unmask] > *Pwnc/Subject:* Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur**** > > **** > > Cytuno mai'r berf-enw sydd orau ond mae "Show me the features ..." etc yn > swnio dipyn bach mwy fel gorchymyn **** > > **** > > Siân**** > > **** > > On 2012 Awst 30, at 9:59 AM, anna gruffydd wrote:**** > > **** > > Ia, dyna be on i'n trio'i ddeud - dwi'n meddwl! - ond dy fod di wedi'i > fynegi'n well. > > Anna**** > > 2012/8/30 Geraint Lovgreen <[log in to unmask]>**** > > Yn hollol - cyfarwyddyd i bobl sydd ar y drws, felly "Tynnwch".**** > > **** > > Efo cyfrifiadur - eisiau agor ffeil yden ni, felly "Agor". Does neb yn > dweud wrthon ni am agor y ffeil, a dan ni ddim yn siarad efo neb, dim ond > clicio ar be dan ni isio'i neud.**** > > **** > > Geraint**** > > ----- Original Message ----- **** > > *From:* anna gruffydd <[log in to unmask]> **** > > *To:* [log in to unmask] **** > > *Sent:* Thursday, August 30, 2012 8:43 AM**** > > *Subject:* Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur**** > > **** > > Fedra i ddim cweit rhoi fy mys ar be dwi'n trio'i ddeud...ond ydi o ella, > wrth roi gorchymyn i gyfrifiadur, ein bod ni'n mynegi dymuniad yn gymaint a > rhoi gorchymyn uniongyrchol? Yn achos yr arwydd ar y drws, mae'n wahanol > achos tydi'r drws ddim yn mynegi dymuniad i gael ei dynnu siawns? ond yn > rhoi cyfarwyddyd uniongyrchol. > > Anna**** > > 2012/8/30 David Bullock <[log in to unmask]>**** > > Ond gweles i ddrws pa ddydd ac arwydd **arno** yn dweud Pull/Tynnu. Doedd > hynny ddim yn gywir, nag oedd?**** > > > > > -----Original Message----- > From: Discussion of Welsh language technical terminology and vocabulary > [mailto:[log in to unmask]] On Behalf Of Geraint Lovgreen > Sent: 29 Awst 2012 18:58 > To: [log in to unmask] > Subject: Re: Ti/chi wrth y cyfrifiadur > > Berfenw a ddefnyddir fel arfer e.e. ar facebook - agor ffeil, dangos neges > etc. > > ----- Original Message ----- > From: "Sian Roberts" <[log in to unmask]> > To: <[log in to unmask]> > Sent: Wednesday, August 29, 2012 6:22 PM > Subject: Ti/chi wrth y cyfrifiadur > > > Rwy'n gwybod bod amryw yn hoffi i'r cyfrifiadur eu galw nhw yn "chi" -**** > > "Cliciwch yma" - am ei fod yn siarad llawer o bobl eraill hefyd.**** > > > Ond beth ddylwn i alw'r cyfrifiadur? > > "Show me features from ..." > > Er bod gen i'r parch mwya at fy nghyfrifiadur, byddai "Dangoswch ...." yn > swnio'n rhyfedd iawn. > Yn yr achos hwn, mae "Dangos ..." yn taro'n o lew am ei fod yn ferfenw > hefyd > ond beth os yw'r gorchmynnol unigol a'r ferfenw'n wahanol? > > Trio meddwl pa fath o orchmynion fyddai rhywun yn rhoi i'r cyfrifiadur.*** > * > > Rhywbeth blwch ticio, mae'n siwr - rhywbeth fel:**** > > > "Count the sheep" > > "Cyfrif y defaid" 'ta "Cyfrifa'r defaid" > > Diolch**** > > Si n**** > > > > ----- > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5233 - Release Date: 08/29/12* > *** > > **** > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5233 - Release Date: 08/29/12* > *** > > **** > > **** > > ** ** > > No virus found in this message. > Checked by AVG - www.avg.com > Version: 2012.0.2197 / Virus Database: 2437/5234 - Release Date: 08/29/12 > > >